91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Gareth Osmond Jones Diwedd Cyfnod i Swyddog Traffig
Hydref 2004
Mae swyddog a ddilynodd ôl troed ei dad i blismona ar draws gogledd orllewin Cymru wedi ymddeol o'i swydd ar ôl gwasanaethu am 30 mlynedd.
Ar ôl cyfnod fel cadet ym Mangor, ymunodd Gareth Osmond Jones â Heddlu Gogledd Cymru ym mis Awst 1974 gan gymryd rhif ei dad - 26, sydd wedi bod yn y teulu ers 1962.

Yn wreiddiol o Lanegryn ym Meirionnydd, gweithiodd Gareth ym Mhwllheli, Abersoch a Llangefni cyn symud i'r adran draffig. Cafodd ei ddyrchafu'n Rhingyll ym 1985 gan weithio yn Llangefni, Porthaethwy a Chaergybi ond dychwelodd i'r adran draffig yn eithaf buan.

Yn 1997 fe'i dyrchafwyd yn Arolygydd ac yn 2003 daeth yn rheolwr yr Adran Adnoddau Dynol yn yr Adran Cefnogaeth Weithredol.

"Rwyf wedi cael lot o bleser yn gweithio i'r adran draffig, ond rwyf wedi gweld nifer o ddamweiniau erchyll," meddai gan gofio damwain yn 1991 pan laddwyd 8 o bobl ym Mhentraeth.

Pan ofynnwyd iddo am atgofion doniol, soniodd Gareth am ei gyfnod fel swyddog ar brawf panarestiodd ddyn tân oedd yn cario radio yn ei law dde tra ar ei ffordd i argyfwng. "Ro'n i'n meddwl ei fod wedi dwyn y radio a'i fod yn trio rhedeg i ffwrdd!" meddai.

Er ei fod wedi ymddeol fel swyddog gyda'r heddlu, dychwelodd i swydd fel Ymgynghorydd Lleihau Gwrthdrawiadau er mwyn rhannu ei wybodaeth.

Gan na fydd yn gweithio oriau maith ar alwad bellach, mae Gareth yn bwriadu treulio mwy o amser gyda'i wraig, Llewela, a'i blant Dylan ac Elen yn ei gartref yn Rhosmeirch.

Mae hefyd yn gobeithio ymuno â chôr, cerdded mynyddoedd Eryri a chwarae mwy o golff.

"Rwyf wedi mwynhau f'amser fel swyddog heddlu a dwi'n ffodus iawn o fod wedi cael gweithio yn y rhan fwyaf o ogledd orllewin Cymru. Ond dwi'n edrych ymlaen at beidio cael galwadau ffôn am 2 a 3 o'r gloch y bore yn gofyn i mi fynd i ddamweiniau drwg."


Cyfrannwch

Elliw o Rhiwbeina Caerdydd
Diwrnod yn llawn atgofion, hyfryd oedd cael mynd yn ol i ddyddiau plentyndod a chyfarfod a ffrindiau bore oes,diolch am drefnu.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý