91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Rhiant yn derbyn neges testun Targedu Triwantiaeth
Medi 2004
Mae Ysgol Gyfun Llangefni yn taclo absenoldeb disgyblion heb ganiatâd gyda thechnoleg drwy sefydlu sustem sy'n galw'r rhieni yn awtomatig.

Mae'r system newydd yn caniatáu i staff yr ysgol allu cysylltu â rhieni plant sydd yn absennol ar y diwrnod cyntaf drwy gyfrwng e-bost, testun neu alwad lleisiol. Eleni, mae'r Cynulliad wedi gosod targed i leihau absenoldeb mewn ysgolion o'r lefel oedd yn 2003-03 sef 9.5% i 8%. Mae Ysgol Gyfun Llangefni - ysgol gyda dros 800 o ddisgyblion - yn cymryd camau pendant i gyrraedd y nod yma.

Mae dros 1,000,0000 blant yn absennol o ysgolion bob blwyddyn. Mewn un diwrnod mae 50,000 o blant heb fod yn yr ysgol a chyda 8 miliwn diwrnodau ysgol wedi eu colli ar draws y DU bob blwyddyn mae absenoldeb heb ganiatâd yn bwnc llosg ym myd addysg.

Unwaith y mae wedi ei sefydlu mae system 'Truancy Call' yn galw'r rhieni yn awtomatig nes bydd ateb wedi ei gael. Unwaith mae rhiant wedi ateb yr alwad bydd y galwadau am y diwrnod hwnnw yn stopio yn awtomatig. Nid oes angen i'r ysgol fuddsoddi mewn sustem ffôn newydd, llinellau newydd na chyfrifiadur newydd.

Dywedodd Mr Haydn Davies, Prifathro Ysgol Gyfun Llangefni: "Mae gosod ''Truency Call' wedi gwneud gwahaniaeth mawr i absenoldeb disgyblion. Roedd yn rhaid i ni gael sustem a fyddai'n galw'r rhieni mewn Cymraeg a Saesneg gan fod y mwyafrif o'r plant o gefndir Cymraeg.

"Rydym wedi cael adwaith dda gan y rhieni i'r sustem gan ei fod yn eu hatgoffa fod angen dweud wrth yr ysgol yn syth os fydd eu plentyn yn absennol. Mae'r gwasanaeth hefyd wedi lleihau'r amser yr oedd yr ysgol yn ei wario yn cysylltu â rhieni. Gynt roedd yn rhaid i ni gysylltu â phob rhiant ar wahân ond yn awr dim ond pwyso botwm sydd raid ac mae'r system yn gwneud y gwaith i ni".


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý