Ond i gynhyrchu papur mae'n rhaid cael pres wrth gefn ac aethpwyd ati i greu pwyllgor i'r perwyl.
Daeth y rhifyn cyntaf allan ym mis Rhagfyr 1977 gyda'r Parchedig Gerallt Lloyd Evans yn olygydd ac yn cael ei argraffu gan gwmni O. Jones yn Stryd y Bont.
Diolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar hyd y 30 mlynedd i sicrhau fod y papur yn cael ei fwynhau bob mis - nid yn unig yng nghylch Llangefni a Môn ond ar draws Prydain a hyd yn oed dramor.
Ar y dde fe welwch gopi o glawr y rhifyn cyntaf. Mae llawer wedi cadw holl gopïau'r Glorian ers y dechrau. Diolch i Mrs Olwen Jones, Gaerwen, trysorydd cyntaf Y Glorian am fenthyg copi o'r papur cyntaf.
Englynion i ddathlu 30 mlynedd y Glorian
Llongyfarchiadau calonnog - i'r papur
A'r popeth ardderchog,
A'i groeso cywir gwresog
Yn ei lên mae cyson lôg.
Mae 'leni'n dri deng mlynedd - o weddus
Gyhoeddi'n llawn sylwedd,
I'w frodir boed brwdfrydedd
I'w werthwyr gŵyl hwyl a hedd.
Hawddamor i griw'r Glorian - i gynnal
Ei gynnwys ag amcan,
Yna deil fel fflam yn dân
Na ellir ei roi allan.
Machraeth
Cewch fwy o fanylion am y dathlu yn rhifyn Chwefror.
|