Cawsant eu cyflwyno gyda chwpan gan Mr Gavin Thomas, Rheolwr Amaethyddiaeth Banc Barclays yn ystod noson a gynhaliwyd gan FWAG Cymru yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Glynllifon, Caernarfon, ddydd lau, 29ain o Ionawr eleni. Yn ogystal â hyn, cyflwynwyd Gwobr Tyddynod i Mr a Mrs Joe Mullen o Langristiolus. Cafodd y ddau deulu eu cymeradwyo am eu cyfraniad tuag at y gadwraeth. Ar ran Y Glorian hoffem longyfarch y ddau deulu lleol ar eu llwyddiant. Mae FWAG Cymru erbyn hyn yn barod i dderbyn ceisiadau am gystadleuaeth 2004. Os ydych chi yn meddwl fod eich fferm / tyddyn yn addas ar gyfer y gystadleuaeth yna cysylltwch â Richard Roberts, Cynghorwr Cadwraeth Fferm, FWAG Gogledd Cymru ar 01248 430638. Bydd pob ymweliad fferm yn un gyfrinachol. Dywed y broliant fod teulu Dolmeinir wedi cyflawni gwaith adfer a chymenu ar lawer o wrychoedd eu tir. Hefyd maent wedi adeiladu pyllau dŵr sylweddol a llwybrau yn gyfochrog â hwy. Yn ychwanegol maent wedi cynnal a chadw gwlybdiroedd sy'n rhoi nodded a chynhaliaeth i fywyd gwyllt. Mae Mr a Mrs Mullen yn ystod y blynyddoedd wedi plannu acer a hanner o goedlannau newydd ar dir eu tyddyn yn Llangristiolus. Yma ac acw maent wedi lleoli nifer fawr o focsus nythu ar gyfer tylluanod yn arbennig ac ar gyfer adar yn gyffredin.
|