Roedd hi'n amlwg oddi wrth y nifer o fysiau a welsom ar yr M6 ar M1 ar y daith i lawr bod yr orymdaith a'r rali yn mynd i fod yn ddigwyddiad trawiadol iawn. Gyda'r orymdaith ogleddol yr ymunom ni yn Gower Street ger Euston ychydig cyn hanner dydd. Roedd gweld y mor o bobl yn cario baneri, placiardau a phosteri yn wefreiddiol. Yng nghanol difrifoldeb yr achlysur, roedd lle amlwg i ffraethineb ar y placiardau, er enghraifft, llun o Bush a Blair ar geiriau oddi tanynt Weapons of mass deception, I love Tony... Benn, Make tea not war a llun o gwpan de ar ben Tony Blair. Arwyddocaol iawn hefyd oedd y posteri o gefnogaeth yn ffenestri siopau a thai bwyta ar hyd yr orymdaith. Delwedd gofiadwy iawn ar Shaftesbury Avenue oedd actorion Les Miserables yn eu gwisgoedd yn barod am berfformiad y prynhawn yn chwifio'u cefnogaeth gyda posteri o ffenestri ochr y theatr. Araf iawn oedd ein symudiau ar waelod Shaftesbury Avenue wrth i'r orymdaith deheuol o'r Enbankment a'n gorymdaith ni gyd-gyfarfod ar Piccadily Circus. Llenwodd y ddwy orymdaith y filltir olaf ar hyd Piccadily, y stryd a'r palmentydd. Pan gyrhaeddom ni Hyde Park am 5.00 or gloch, roedd y rali drosodd ond roedd miloedd ar filoedd y tu ôl i ni ar Piccadily. Hawdd felly oedd credu'r ffigwr o ddwy filiwn o bobl ar y gorymdeithiau ac yn y rali. Teimlai pawb ar y daith adref eu bod wedi profi digwyddiad hanesyddol iawn. Cyfrifoldeb pob un ohonom yw cynyddu'r pwysau yn erbyn y rhyfel hon dros olew Irac. Ysgrifennwch at Tony Blair, Ieuan Wyn Jones AC ac Albert Owen AS i leisioch barn yn erbyn rhyfelgarwch imperialaidd yr Unol Daleithiol a'r Wladwriaeth Brydeinig. Am fwy o fanylion am weithgaredd Grwp Heddwch Bangor ac Ynys Môn cysylltwch â Phil Steele, Ty Cerrig, Llangoed. Yn ardal Llangefni, cysylltwch â Dylan Morgan, Cwpwrdd Cornel, Canolfan Y Ffowndri, Stryd Fawr, Llangefni.
|