|
|
|
Ennill gwobr Ebrill 2009 Yn ddiweddar, enillodd Lisa Jên Jones, 15 oed, o Bencraig wobr mewn Seremoni "Llais Ni" a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Fali. |
|
|
|
Mae '''Llais Ni" yn gweithio mewn partneriaeth a Chyngor Sir Ynys Môn a NSPCC Cymru i wneud yn siŵr bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu c1ywed.
Roedd Lisa ar restr fer gwobr "Llais Ni" am y Cyfraniad mwyaf i glwb/ysgol/sefydliad. Cafodd ei henwebu gan Siwan Owens, Rheolwr Theatr Ieuenctid Môn, am ei hymroddiad i'r gweithdai wythnosol ers 2003.
"Pan ddywedom wrthi ei bod wedi'i henwebu ar gyfer y Seremoni a'i bod ar y rhestr fer, roedd hi wrth ei bodd ac yn ddiolchgar iawn.
"Er bod Lisa yng nghanol blwyddyn brysur iawn yn yr ysgol yn astudio ar gyfer ei harholiadau TGAU, mae hi'n dal i fynychu ein gweithdai TIM a'r Côr bob wythnos, yn ogystal a chystadlaethau a chyngherddau pan fo angen.
Daw Lisa o deulu cariadus iawn, sy'n gweithio'n galed i roi'r gefnogaeth orau iddi i gyflawni ei huchelgais o fod yn berfformiwr proffesiynol yn y dyfodol", esboniodd Siwan Owens.
Y llynedd, bu'n rhan o glyweliadau "Britain's Got Talent" ond ni lwyddodd i basio'r cam hwnnw, ond er bod ei nerfau hi'n racs, roedd
wedi mwynhau'r profiad yn arw iawn.
.
Ychwanegodd Lisa, "Roedd y seremoni wobrwyo yn brofiad gwych a bydd yn rhywbeth y gallaf ychwanegu at fy CV er mwyn i mi gael datblygu fy ngyrfa a'm hamcanion.
"Roedd yr awyrgylch yn wych ac roedd hi'n deimlad arbennig iawn i weld cymaint o bobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi am eu gwaith caled."
Mae TIM Mawr yn cyfarfod bob dydd lau rhwng 7 a 9 o'r gloch, ac yn fuan, bydd yn dechrau ymarfer ar gyfer cynhyrchiad cerddorol eleni.
Os ydych chi rhwng 11 a 18 oed ac yn dymuno ymuno a TIM, cysylltwch a Siwan Owens, Menter Mon ar 725732 neu ewch i'n gwefan newydd yn www.monswn.co.uk
|
|
|
|
|
|