Mae Dafydd Ifan Jones o Lanallgo, Merfyn Watcyn Owen o Rosfawr a Geraint Annwyl Williams o Fodfford (gynt o Dan y Bryn, y Fali) yn canu efo'i gilydd ers pum mlynedd bellach. Mae'r tri hefyd yn aelodau o Gantorion Colin Jones, côr o hanner cant o leisiau sydd newydd fod ar daith yng Nghaliffornia. Cafodd y tri Monwysyn wahoddiad i ymestyn eu hymweliad i ganu yng Nghymanfa Ganu Los Angeles. Merch o'r Brithdir, Dolgellau oedd yn arwain. Mae Rhiannon Evans Acree yn aelod o deulu cerddorol Gwanas ond yn byw yn Long Beach ers pum mlynedd ar hugain. Roedd yr achlysur yma yn gyfle hefyd i'r triawd gyfarfod ag un o leisiau cyfarwydd Radio Cymru. Cyfrannodd y Parchedig I. D. E. Thomas yn gyson at raglenni newydd yr orsaf ers blynyddoedd maith. Ddyddiau'n unig ar ôl dychwelyd o'r Unol Daleithiau, roedd Dafydd, Merfyn a Geraint yn canu yng Ngwesty'r Fali gan rannu'r llwyfan hefo'r grŵp Broc Môr, mewn noson ddifyr i godi arwain i Eisteddfod Môn. Mae Canig yn canu mewn cyngherddau a chymanfaoedd ar hyd a lled yr ynys erbyn hyn. Fe'u clywir hefyd yn canu fel triawd ar gryno-ddisg newydd Cantorion Colin Jones ac wedi dechrau ar y gwaith o gasglu caneuon ar gyfer eu disg eu hunain.
|