Ef yw'r dyn mwyaf cyhyrog yn y byd ac enillodd y teitl ym Madrid, Sbaen yn Hydref 2004 a hynny yn erbyn cystadleuwyr o ddeunaw o wledydd y byd. Aeth David i Ysgol Gaerwen ac Ysgol Gyfun Llangefni a phob amser yn disgleirio mewn gymnasteg a chynorthwyodd lawer o rai eraill gyda'r un diddordeb. Dipyn o flynyddoedd yn ôl bellach enillodd deitl y 'Welsh British Commonwealth' mewn gymnasteg. Cyn cystadleuaeth, am tua deunaw wythnos, mae David yn ymarfer yn gyson a chadw i ddeiet arbennig o dwrci sych, cyw iâr sych, cig moch, llysiau, tatw melys ac olew arbennig sy'n rhaid ei roi dros y bwyd. Bydd yn cymryd 6-8 pryd y dydd, bwyta'n gyson bob rhyw ddwy awr a hanner. Bydd yn codi am bump y bore i wneud rhywfaint o gerdded pwerus, awr yn y gampfa gyda'r nos ac ar y penwythnos yn gwneud ymarfer egnïol sy'n gwneud i'r galon a'r ysgyfaint weithio'n galed. Ym Madrid roedd y beirniaid yn dewis y chwech gorau yn ôl cyflwr y corff a'r cyhyrau ac yna dewis un o'r chwech a David ddaeth i'r brig. Yn ei flwyddyn fel Mr Universe bydd gwahoddiadau yn dod o bob rhan o'r byd ac mae yn ei weld yn gyfle da. Mae'n mynd i wlad Belg, Groeg a'r Amerig yn y dyfodol agos. Mae wedi cymryd saith mlynedd o waith caled iddo ddod i'r brig am y teitl. Mae hyn yn rhagorol gan y cymer bum mlynedd ar hugain i lawer un. Ydi o am fynd yn llawn amser a gwneud hyn yn broffesiynol? Nac ydi. Er cymaint y mae'n mwynhau y clod sy'n dod i ganlyn y teitl nid oes ganddo fwriad i roi gorau i'w swydd gyda chwmni argraffu. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da iddo ar ei flwyddyn fel pencampwr yn crwydro'r byd.
|