91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Bachgen bach o'r Cen
Ebrill 2008
Theatr Fach Llangefni
Os nad ydych yn gwybod lle mae'r Cen, yna dydach chi ddim wedi darllen gwaith William Owen, Borth y Gest.
I'r anwybodus yn eich mysg - tu draw i Rosgoch, drwy Seion, i'r chwith heibio'r Crow a'r lle gosa' i'r Nefoedd - fanno mae Carreglefn neu'r Cen i bobl yr ardal. Ac i'r fan honno yr aed a ni yng nghynhyrchiad diweddaraf Theatr Fach Llangefni - i'r darn concrit o flaen drws y Post neu'r Siop Fawr a dweud y gwir. Y peth cyntaf a'm trawodd oedd gweld y ciosg ar y llwyfan ac oni bai fy mod yn eistedd yn y rhes gefn - bron na fuaswn yn taeru fod y paen o wydr a dorrais yn 1966 i'w weld o hyd!

Addasiad Tony Jones o lyfrau William Owen oedd y gwaith a Tony ei hun yn gyd gyfrifol am y cynhyrchu efo Owen Huw Roberts ac Iwan Evans yn gyfarwyddwr cerdd. Annheg fyddai enwi yr un actor oherwydd cafwyd gwaith ardderchog gan bawb - o'r hen i'r ifanc. Mae dyfodol y Theatr ar sylfaen eitha sicr os bydd y to ifanc yn parhau a'r to hŷn yn dal yno i'w cefnogi. Wel, a bod yn hollol onest, ni welais yr un ohonynt gan i mi gau fy llygaid drwy'r perfformiad a chael fy nwyn yn ôl i'r dyddiau braf hynny pan yn tyfu i fyny. Gan fod rhywun yn adnabod y cymeriadau ac yn cofio llawer ohonynt fel pobl o gig a gwaed, hyfrydwch pur oedd gwrando ar y lleisiau yn canu a llefaru a minnau yn gallu nofio'n braf mewn môr o atgofion wedi hynny.

Mae cynulleidfa'r Theatr yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan Tony a'i griw a chafwyd ganddynt amrywiaeth dda o actio, canu a llefaru a dyna pam fod yr awditoriwm yn gyfforddus lawn ar y noson gyntaf hyd yn oed ac mae'n amlwg fod y neges wedi mynd allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau gan i'r lle fod yn orlawn bob noson arall. Braint i'r cast a'r criw oedd cael cyfarfod a William Owen ei hun ac yntau wedi gwneud y daith o Borth y Gest i Langefni ddwywaith er mwyn gweld y gwaith! Roedd gwên lydan ar ei wyneb pan yn troi tua thre' nos Sadwrn.

Os nad ydych yn gwybod lle mae'r Cen, yna ewch i'r Cwpwrdd Cornel i archebu'r llyfrau. Fe fyddwch yn sicr o gael mwynhad o'u darllen fel y cafodd cynulleidfa Theatr Fach o weld y cymeriadau yn dod yn fyw ar y llwyfan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý