Gwaith da Mawrth 2009 Bore Iau, 12 Chwefror daeth Mrs Mair Parry i'r ysgol i ddweud ei hanes yn anfon bocsys 'Operation Christmas Child' i'r Ukraine.
Dywedodd ei bod wedi cyflwyno bocs Lois, un o blant yr ysgol, i Efa, merch fach yn un o bentrefi'r Ukraine.
Roedd mam Efa yn awyddus i Mair Parry ddiolch i'r ysgol, i gymuned Llandrygarn ac i Ynys Môn am yr anrheg i'w merch.
Roedd yn agoriad llygaid clywed Mrs Parry yn adrodd yr hanes ac yn dangos cymaint oedd trigolion Ukraine yn gwerthfawrogi y pethau bychain a gymerwn ni mor ganiataol.