Aethant yno i ymuno yn nathliadau Gwyl Owain Lawgoch, gor-nai i Llywelyn ein Llyw Olaf, fu'n ymladd efo'r Ffrancwyr yn erbyn y Saeson yn y 14 Ganrif. Credir iddo gael ei lofruddio ym Mortange ac yno y dadorchuddiwyd cofeb iddo fis Awst eleni. Daeth pawb ynghyd ar sgwâr Mortagne nos Iau a chafwyd cyd-ganu gan y Cymry oedd wedi teithio yno o'r de a'r gogledd rhai wedi dod i fwynhau, eraill yno i berfformio hefyd. Roedd yn noson hwyliog, gyfeillgar a'r Ffrancwyr wrth eu bodd a pharhaodd yr awyrgylch hamddenol drwy'r bwrw Sul. Ddydd Gwener, wedi gorymdeithio drwy'r def a gwylio seremoni dadorchuddio'r gofeb roedd Dawnswyr Môn yn perfformio i gynulleidfa o 800. Roedd y gymeradwyaeth yn gynnes iawn a'r Dawnswyr hefyd wedi mwynhau. Cafodd Siôn Gwilym Jones o Lansadwrn dderbyniad arbennig am ei glocsio unigol. Bu dawnsio ar y stryd ddydd Sadwrn a pherfformio eto gyda'r nos. Cafwyd amser braf yn dawnsio ar y cei ddydd Sul a gyda'r nos bu'r cerddorion yn chwarae alawon Cymreig i'r dorf oedd wedi ymgynnull yno. Daeth llawer i fynegi eu gwerthfawrogiad ac i ganmol y perfformiadau gafwyd gan Ddawnswyr Môn gydol yr Wyl. Am 11 o'r gloch nos Sul cafwyd 20 munud o sioe dân gwyllt i gerddoriaeth amrywiol a llais Bryn Terfel (ar CD!). Diweddglo gwych! Roedd gadael yn anodd wedi derbyn cymaint o groeso gan y trigolion lleol sawl un wedi rhoi llety i'r perfformwyr, eraill yn paratoi bwyd. Gobeithio y daw cyfle cyn bo hir i groesawu pobl Mortagne i Fôn a dawnsio iddynt eto. Wedi Haf Ers dechrau Medi bu Dawnswyr Môn yn cyflwyno eu rhaglen awr i Gynhadledd Brydeinig Trefnwyr Blodau yn Llandudno ac yn dawnsio ar y sgwâr ym Miwmares. Os ydych eisiau unrhyw wybodaeth am Ddawnswyr Môn ffoniwch Mrs Mair E Jones ar 01248 450508 (yn enwedig dynion sydd am ymuno gan fod sawl merch newydd wedi ymuno yn ddiweddar).
|