Mae'r Mudiad ym Môn wedi bod yn llwyddiannus iawn eleni ym mhob maes gyda'r Siaradwyr Cyhoeddus yn ail a thrydydd drwy Gymru a'r Panto yn bedwerydd canmoladwy iawn.
Bydd Rali flynyddol y Ffermwyr Ifanc ym Môn ychydig yn wahanol eleni.
Mae'r Mudiad trwy Gymru yn dathlu 70 mlynedd ac o'r herwydd bydd y Rali yn ddiwrnod i ddathlu gyda hen ffrindiau a ffrindiau newydd.
Bydd cyfle i weld datblygiadau dros y blynyddoedd gyda stondinau ac arddangosfeydd o bob math a chystadlaethau arferol. Bydd cyfle hefyd i bawb ymuno mewn gweithgareddau.
Fel rhan o'r dathliadau cenedlaethol bydd aelodau yn cymeryd rhan mewn Gala mawreddog yng Nghaerdydd ar y 5ed o Dachwedd.
Gobeithio bydd cyn-aelodau yn ymuno gyda ni ar y daith i Gaerdydd.
Bu cystadleuaeth fis Mawrth am Aelod y Flwyddyn HÅ·n ac Aelod y Flwyddyn Iau.
Enillydd Gwobr R.J. Williams am Aelod HÅ·n yw Ann Williams o Glwb Penmynydd ac enillydd Gwobr Rhyd Dafydd am Aelod Iau yw Rhys Williams o Glwb Rhosybol.
Bydd y ddau yn mynd i gystadlu ar ran y Sir yng nghystadlaethau Cymru fis nesaf.
Cofiwch dyddiau y Rali eleni - Dydd Sadwrn, Mai 13eg.
|