91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Geraldine, Verginia a gyrrwr y bws mini â'm cludem Pytiau o'r Wladfa
Tachwedd 2004
(±Ê²¹°ù³óâ»å)
Wrth fynd drwy'r ffrâm Belydr X am y trydydd tro cofiais fod gennyf gyfrifiannell mewn poced fach yn fy ngwregys.
Yna drwodd â mi - roedd popeth yn iawn. Diolch fod yna bobl o hyd yn gwneud y gwaith yn drylwyr pan mae llygaid carfan yr Al-Quaida mor barod i daro.

Wedi hedfan drwy'r nos cyrraeddasom faes awyr Ezeia yn Buenos Aires. Yno yn ein disgwyl roedd dwy ferch hawddgar, Verginia Moran a Geraldine, merch Monica Jones, o'r Gaiman oedd yn siarad Cymraeg. Cyn cychwyn am Westy'r Impala cawsom fanylion ganddynt am y ddinas fawr.

Buenos Aires yw prif ddinas yr Ariannin gyda thair miliwn o bobl yn byw mewn 78.3 milltir sgwâr (cymaint â phoblogaeth Cymru) gyda chyfanswm o ddeg miliwn a chymryd yr ardal allanol. Dim rhyfedd fod yna heddweision arfog bob cornel i'r stryd bron.

Gan mai hanner awr wedi saith y bore y bu i ni landio, ychydig iawn o amser oedd gennym i ymlacio cyn cychwyn eto am dri o'r gloch y pnawn ar daith o amgylch y ddinas. Roedd yn agoriad llygad i weld yr adeiladau marmor gwych ac ar yr ochr arall y tai tlawd.

Y man cyntaf y bu i ni ymweld ag o oedd Cadeirlan y Metropole yn ei farmor ond eto roedd plant ac oedolion yn begera yn y fynedfa fel yr esgynem o ris i ris.

Wedi treulio peth amser yn y Gadeirlan yn rhyfeddu at yr addurniadau ysblennydd, ymlaen â ni i Stadiwm y La Boca mewn rhan arall o'r ddinas. Dyma lle y bu i'r pêl-droediwr enwog, Diego Maradona, gychwyn ei yrfa. Er i lawer o flynyddoedd fyned heibio, mae ei enw yn dal mor fyw ag y bu erioed. Roedd capiau, crysau a phob math o bethau yn cario ei enw. Fe gofiwn ninnau amdano pan ddywedodd mai llaw Duw fu'n gyfrifol i'r Ariannin ennill Cwpan y Byd. Mae'r seren erbyn heddiw wedi diffodd a thywyllwch drygiau wedi pylu ei feddwl. Y diwrnod yma daeth adroddiadau ar y teledu a'r wasg ei fod yn wael iawn. Roedd yr adroddiadau yma yn dal i sôn amdano fel y brenin.

Ymlaen â ni eto drwy'r ddinas brysur, heibio i Lysgenhadaeth llawer gwlad, banciau, amgueddfeydd a chofgolofnau oedd yn hynod o lân, heibio'r obelisc sy'n sefyll yn rhodfa Naw de Julio sef y stryd letaf yn y byd. Ni fuasai'n hymweliad yn gyfan heb i ni arwain ein cerddediad i fynwent La Ricoleta lle mae gweddillion Eva Peron sef priod Arlywydd yr Ariannin Juan Domingo Peron, 1895-1974. Fe gipiodd rym llywodraethol yn 1943 ac fe'i etholwyd yn Arlywydd yn 1946, yna yn 1951. Fe'i halltudiwyd ar ôl y chwyldro yn 1955. Daeth yn ôl i'r Ariannin a chael ei ethol eto yn 1972 yn Arlywydd. Yn siŵr fe gofiwn am y ffilm Evita oedd yn rhoddi'r stori yn gryno i ni.

Fel y dychwelem o fysg y beddau marmor oedd yn debyg i dai bychain gwelem lawer o gathod yn cael eu bwydo gan wraig yn ymyl y brif fynedfa. Pam tybed? ... i'w barhau.

Eurfron


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý