Mae'r gadair ar ei ffordd mewn llong ond wrth gwrs mae ganddo gadair arall a enillodd yn y Wladfa fel y gwelwch yn y llun. Enillodd Machraeth gadair Eisteddfod Talwrn eleni hefyd. Mae'n ddyn prysur!
Lucy Kelly a ddaeth yn ail ar unawd cerdd dant ac yn gyntaf ar yr unawd alaw werin dan 12 oed yn yr Å´yl Gerdd Dant yn Rhosllanerchrugog.
Enillodd hefyd wobr am y perfformiad gorau dan 12 oed
yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen.
... ac adroddwyr
Manon Wyn Williams o Rosmeirch a enillodd wobr Tlws yr Ifanc yn Eisteddfod Talwrn a hefyd bu'n fuddugol yn y gystadleuaeth Llefaru unigol dros 16 oed yn yr Å´yl Gerdd Dant yn Rhosllanerchrugog. Llongyfarchiadau mawr iddi.
|