Wedi ei lleoli oddi fewn i Oriel Ynys Môn, bydd Oriel Kyffin
Williams yn deyrnged barhaol i un o artistiaid enwocaf a mwyaf
uchel ei barch yng Nghymru.
Agorir Oriel Kyffin Williams gan Ardalyddes Ynys Môn ar
18 Gorffennaf.
Fel rhan o'r dathliad mae cerflun arbennig wedi
cael ei gynhyrchu gan Michael Scheuermann.
Yn ystod yr
wythnos agoriadol cynhelir gweithgareddau celfyddydol fydd
yn sicr o apelio i nifer.
Mae llyfr arbennig hefyd wedi ei gynhyrchu i glodfori Oriel
Kyffin Williams. Mae'r llyfryn hwn yn llawn lluniau o gasgliad
Oriel Ynys Môn sy'n cofnodi pethau sy'n gyfarwydd i ni ond
hefyd cawn hen ddelweddau pwysig o'r Ynys hon sydd wedi
hen ddiflannu.
Yn ogystal a'r darluniau, mae yma nifer o
baentiadau olew sydd ymhlith y gorau a gynhyrchodd Kyffin
erioed.
Mi fydd y llyfr ar werth yn siop Jac Do Oriel Ynys Môn.
Dywedodd deilydd y portffolio Hamdden, y Cynghorydd
Eurfryn Davies, "Bydd Oriel Kyffin Williams yn deyrnged addas
i lwyddiannau artistig y gŵr ac yn gartre parhaol i dros 400 o
ddarnau o waith. Bydd yr Oriel newydd hefyd yn ased
ddiwylliannol unigryw a phwysig yn lleol, rhanbarthol a
chenedlaethol."
Rhodd hael
Bu Oriel Ynys Môn yn ffodus iawn o gael Syr Kyffin
Williams, oedd yn enedigol o Langefni, fel hyrwyddwr i'r
celfyddydau ym Môn a bu'n gefnogwr brwd a gweithgar o
waith yr Oriel ers ei hadeiladu yn 1991.
Yn ei haelioni, rhoddodd Syr Kvffin Williams dros 400 o
weithiau celf gwreiddiol i Orief Ynys Môn, o sgetys i
ddarluniau i waith olew sylweddol.
Mae'r Oriel yn diogelu'r
casgliad mawr a phwysig hwn a balchder er budd pobl Môn a'i
hymwelwyr.
Rhoddodd Syr Kyffin Williams sêl bendith ar y prosiect
uchelgeisiol o sefydlu Oriel Kyffin Williams cyn ei farwolaeth
ar 1 Medi 2006.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth yn enw Syr Kyffin Williams er
mwyn gwireddu'r prosiect.
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn
parhau i hyrwyddo gwaith Syr Kyffin Williams mewn sawl
maes ac yn annog datblygiad gwaith celf artistiaid ifainc yn
benodol.
|