Mae'n gyn ddisgybl yn Ysgolion Ferch o'r Sger a Llanhari.Sut wnes ti fwynhau Gemau'r Gymanwlad yn Melbourne:
Roedd yn brofiad gwych ac roeddwn yw falch iawn fel Cymro Cymraeg i gael y cyfle i wisgo fest Cymru.
Oeddet ti yn hapus gyda dy berfformiad o gofio dy fod wedi gwneud amser gorau dy fywyd ym mhob rownd?
Yn amlwg, oeddwn roeddwn wedi gwneud yn dda ond roeddwn mor agos at gael medal roeddwn yn siomedig yn y diwedd, yn arbennig o gofio pe bawn wedi gwneud yr amser yna bedair blynedd yn ôl byddwn wedi bod yn ddigon cyflym i ennill y fedal aur. Felly siomedig oeddwn i yn y diwedd achos dwi'n gwybod, gyda mwy o brofiad a mwy o ymarfer, mi rydw'i yn gallu mynd yn gyflymach. Wedi dweud hynny roeddwn yn hynod hapus fy mod wedi torri record Cymru am y ras 400 metr dros y clwydi yn y rownd derfynol, yn arbennig gan i bod hi mor gynnar yn y tymor athletau.
Faint o ymarfer oeddet yn ei wneud cyn mynd i'r bencampwriaeth?
Roeddwn yn ymarfer deg sesiwn yr wythnos, bues yn Ne Affrig yn ymarfer, ym mhrifysgol Stellenbasch, am bedair wythnos.
Pam De Affrig?
Er mwyn cael dod yn gyfarwydd a rhedeg yn y gwres fyddwn yn wynebu yn Melbourne. Roedd y gwres yn Melbourne yn 30 gradd canradd. Wedyn fe es i Awstralia tair wythnos cyn y gemau i wneud rhagor o ymarfer. Mae yn swnio yn grand iawn cael teithio'r byd i ymarfer ond dyna'r cyfan roeddwn yn ei wneud oedd ymarfer, ymarfer, ymarfer ac roedd yn hynod o galed. Toes dim llawer o amser i fynd i ymweld â'r gwledydd yma, ond dyna sydd raid i mi wneud os rydw'i eisiau bod y gorau yn y byd, dwi'n derbyn hynny.
Beth oeddet yn ei wneud rhwng y rasys?
Yr unig beth rwyt yn gallu gwneud yw ceisio ymlacio, cael physio, massage, gofalu eich bod yn bwyta'r pethau iawn. Mae'r ymarfer drosodd, cyfan rydych yn ei wneud yw ceisio ail adeiladu eich egni ar gyfer y ras nesaf.
Beth yw un o'r pethau pwysicaf i ti?
Rwyf yn ffodus fawn o fod ym Mhrifysgol Loughborough ble rydw'i yn gallu cyfuno fy astudiaethau ar gyfer cwrs MSc gyda fy niddordeb mewn athletau. Dyma'r ganolfan orau ym Mhrydain i wneud athletau, mae popeth yma, ac mae'r gefnogaeth wyddonol am chwaraeon yn werthfawr dros ben. Mae hefyd yn bwysig iawn i geisio cadw yn rhydd o anafiadau. Mae yn cymryd cymaint o amser i ddod dros anaf, wedyn ail gydio yn yr ymarfer a dod yn ôl i'r lefel o ffitrwydd roeddech wedi cyrraedd o'r blaen heb sôn am wella eich perfformiad.
Beth oeddet yn feddwl o'r seremoni agoriadol?
Roedd yn wych, profiad anhygoel, roedd yr Awstraliaid yn gwybod yn iawn sut i roi sioe ymlaen. Byddwn yn hoffi mynd yn ôl i Awstralia eto, mae'n wlad hyfryd, a'r bobl yn gyfeillgar iawn ac yn cymryd eu chwaraeon o ddifrif. Mae eu hagwedd tuag at gadw yn iach ac yn heini yn wahanol i ni yma, mae pawb yn cymryd rhan mewn rhyw fath o ymarfer corff neu chwaraeon.
Beth yw'r gystadleuaeth nesaf?
Mi fyddai yn hedfan allan i Malaga dydd Llun ar gyfer cystadleuaeth yr Europa Cup. Byddaf yn cynrychioli Prydain yn erbyn timoedd cryf iawn o wledydd fel Rwsia, yr Almaen, Ffrainc, yr Eidal, a Sbaen. Rwy' n gobeithio gwneud yn dda yno gan y bydd yn rhoi syniad i mi beth yw fy safon ar gyfer ceisio am fedal yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn Gotthenberg ym mis Awst. F
y uchelgais eleni yw cael medal yn Gotthenberg. Bydd yn anodd iawn gan y bydd athletwyr arbennig o dda yno o wlad Groeg a Ffrainc. Wedi hynny mae Pencampwriaethau'r Byd yn Osaka, Japan. Tro diwethaf fe gyrhaeddais y rownd gyn derfynol ond tro nesaf rwy' n gobeithio mynd un yn well a chyrraedd y rownd derfynol. Wrth gwrs wedyn mae'r gemau Olympaidd yn Beijing yn 2008 ac rwy' n edrych ymlaen at cynrychioli Cymru yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain.
Dim ond gobeithio fy mod wedi gallu cyfleu ychydig o'r brwdfrydedd oedd yn ei lais. Byddwn, fel darllenwyr yr Hogwr yn dilyn ei yrfa, mae yn haeddu llwyddiant. Pob dymuniad da iddo.
Cyfweliad gan Tom Price