91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Cei Porthcawl Hanes Rheilffordd Dyffryn Llynfi a Phorthcawl
Hydref 2003
Y tro nesaf byddwch ym Mhorthcawl, ewch i lawr at y cei ac fe welwch yr unig ran o reilffordd y 'Dyffryn Llynfi and Porthcawl Railway' (D.L.P.R.) sydd yn ei le.
'Y Kenfig Hill and District Music and Arts Society', o 1967 hyd at 1971 sicrhaodd fod manylion am yr hen 'Tramroad' yn cael eu cofnodi.

Ceir hanes eu gwaith mewn pamffled diddorol 'An article on the Dyffryn Llynfi and Porthcawl Railway in Kenfig Hill' gan John Flint, trefnydd y prosiect, ac mae hanes y rheilffordd wedi ei gofnodi mewn llyfr gyhoeddwyd yn 1987 'D.L.P.R. The Story of a Railway and its background' gan Brynmor James.

Syniad gwreiddiol y 'Tramroaders' oedd cofnodi, ar ffurf lluniau, llwybr yr hen reilffordd dros yr 16 milltir o Borthcawl i Faesteg, ond tyfodd y prosiect. Cafwyd cynhorthwy gan y Fyddin Diriogaethol a ddefnyddiodd "Mine Detector" i chwilio am unrhyw ddarnau haearn oedd ar ôl. Dyna sut y cafwyd y darnau cyfan o reiliau sydd yn awr ar y cei ym Mhorthcawl ac yn Llyfrgell y Pîl. Yn eu hadroddiad gallwch synhwyro'r wefr pan ffeindiwyd y darn cyntaf o reilen gyfan 3'10" o hyd ac yn pwyso 50 pwys gerllaw Waun Bant, Mynydd Cynffig. Erbyn diwedd y prosiect casglwyd dros ddwy dunnell o ddarnau haearn bwrw ac maent yn awr, ynghyd â'r lluniau a dynnwyd, a chofnodion y prosiect, yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Cyflwynwyd cais gerbron y Senedd ar y 10fed o Fehefin 1825 i sefydlu y D.L.P.R. Gwerthwyd siars am £100 yr un, a chodwyd £40,000 cyn dechrau'r gwaith. Yn ddiweddarach roedd hyd yn oed Benjamin Disraeli yn dal gwerth £3000 o siars yn y cwmni. Yn un o'i lythyrau mae Iolo Morganwg ar 26ain Medi 1851, yn annog ei fab Taliesin i geisio am swydd ar y dramffordd.

Dyma rai o'r rheolau oedd yn gynwysedig yn y ddeddf. Rhaid cael waliau 6 troedfedd o uchder bob ochor i'r dramffordd wedi eu gwneud o gerrig a mortar, gyda 15 llath rhwng y ddwy wal. Yn y mannau lle roedd dau drac, er mwyn i'r trênau basio ei gilydd, roedd y lled i fod yn 30 llath. Rhaid oedd cael dau lwybr, un i'r ceffylau yng nghanol y trac a'r llall wrth yr ochr i'r haliwr gerdded. Roedd y trac yn 4 troedfedd 6 modfedd o led.

Cafwyd trafferthion mawr ar y dechrau gyda'r rheiliau haearn bwrw yn torri dan bwysau'r cerbydau. Tynnwyd y cerbydau gan dri cheffyl, gyda'r haliwr yn eu harwain a bachgen yn gweithio fel breciwr. Y dull a ddefnyddiwyd i arafu'r trên ar fan serth oedd rhoi "sprag", baryn haearn neu bren yn yr olwyn fel ei bod yn cloi. Byddai'r olwyn yn sglefrio ar hyd y lein yn arafu'r cerbydau ond hefyd yn gwneud cryn niwed i'r rheilffordd.

Yn ôl y cofnodion mae'n debyg i'r rhan isaf o'r rheilffordd o Borthcawl i fyny gael ei gwblhau cyn y rhan uchaf o Faesteg i lawr. Cafwyd cyfreithiau lleol i ddiogelu'r trac e. e. Anyone damaging the track shall be subject to transportation for seven years. " The times for using the tramroad shall be - in summer from 4am to 9pm, in winter from 6am to 6pm.

Ar y dechrau, porthladd syml iawn oedd ym Mhorthcawl, a dioddefodd ar hyd ei oes o'r ffaith ei fod yn le peryglus iawn i fynd i fewn ac allan ohono ar dywydd garw, a chollwyd sawl llong a bywyd ar greigiau Tusker gerllaw.

Am weddill yr hanes, rhaid i chi ddarllen y llyfr a'r bamffled gofnodwyd uchod, ond diolch i'r "Tramroaders" am y gwaith clodwiw.

Cyfnod y D.L.P.R. oedd o 1825 - 1861. Yr adeg yma Merthyr oedd, canolfan gwaith haearn Ewrop, doedd, Porthcawl ddim yn bod ond yr oedd lle o'r enw Pwll Cawl. Rydych yng nghyfnod y tollbyrth a "Therfysgoedd Rebecca". Y ffordd orau i gario unrhyw beth i fyny'r cymoedd oedd ar gefn asyn. Felly bwriad rheolwyr oedd cael ffordd hwylus gael cynnyrch glo, calch a haearn cwm Llynfi i lawr at y môr.

Tom Price


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý