91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Disgyblion yr ysgol ar Ddiwrnod Plant Mewn Angen Digwyddiadau Ysgol Gymraeg Bro Ogwr
Chwefror 2005
Mae'n wir dweud fod pawb wedi mwynhau ein gweithgareddau Plant Mewn Angen eleni. Gwnaeth bawb ymdrech fawr i godi arian i'r elusen arbennig yma.
Ymunom ag apêl siop esgidiau Brantano ym Mhen-y-bont gan fynd ag hen esgidiau i'w casgliad nhw. Cafom wobr arbennig oddi wrthynt am ddangos cymaint o gefnogaeth.

Ar ddiwrnod yr apêl daeth pawb i'r ysgol gan gynnwys nifer o'r staff wedi gwisgo dillad mor lliwgar â phosib. Roedd hi'n werth ein gweld gyda'n gilydd ar yr iard. Gofynnwyd i bawb ddod ag arian mân i'r ysgol er mwyn llenwi llun enfawr o Pudsey ar yr iard. Gwobrwywyd haelioni'r disgyblion â bisgedi blasus.

Casglwyd dros chwe chan punt yng nghanol yr hwyl a'r sbri. Hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrech, yn enwedig y bechgyn a fu wrthi am ddyddiau yn cyfrif yr arian mân - mae gennym ni sawl cyfrifwr y dyfodol yn ein plith!

Operation Christmas Child

Fe fuom yn gefnogol iawn i Apêl Operation Christmas Child eleni' eto. Casglom lond fan o focsys esgidiau yn llawn rhoddion i blant llai ffodus yn Azerbajan. Diolch unwaith eto am yr haelioni.

Ffair Nadolig
Cafwyd cefnogaeth wych i ffair Nadolig y Gymdeithas Rieni eleni. Tyrrodd niferoedd i brynu a chymdeithasu. Ymwelodd Sion Corn i ddiddanu'r plant.

Roedd hwn hefyd yn gyfle arbennig i ddisgyblion blwyddyn 6 gael tro ar fod yn fobl busnes drwy farchnata a gwerthu eu cynnyrch Nadolig gwreiddiol. Llwyddiant ysgubol unwaith eto.

Sioeau Nadolig

Heb os, un o uchafbwyntiau Nadolig Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn ein sioeau Nadolig. Fe gymerodd pob un o'r disgyblion ran mewn perfformiadau proffesiynol iawn.

Perfformiwyd 'Ti yw yr Un' gan yr adran iau a 'Nadolig o Gwmpas y Byd' gan y babanod. Gwerthwyd y tocynnau yn gyflym iawn a llenwyd y neuadd ar gyfer y perfformiadau i gyd. Cymaint oedd y galw am docynnau fel y bu raid i'r babanod berfformio sioe ychwanegol.

Roedd ôl ymarfer di-flino ar bob un o'r naw perfformiad ac mae'n ymddangos bod gennym nifer o sêr byd adloniant y dyfodol yn ein plith.

Gohebydd - Emma Humphreys


Cyfrannwch

nia
mae athrawon yn hwyl a fyddwn ddim yn anghofio beth a rydw i hoff iawn o miss proctor a mrs richards a pawb arall sydd wedi dysgu fi diolch yn fawr iawn!

Angharad
Rydw mewn blwyddyn 9 yn Llanharri nawr. Roedd Bro ogwr yn ffab. Roedd Miss Davies ac Mrs Gatt yn arbennig!!!

william t o pen t bont
dwi n hoff iawn ysgol bro ogwr mae mr ap iwan yn gret.

Lauren
Hello !Rydw i yn Llanhari nawr a rydw i yn joio mae on gret !Rydw i yn teipio hyn o cyfrifiadur Llanhari yn y ystafell cyfrifiaduron ynlle cymraeg .(rydw i ddim yn buncio !)Rydw i wedi wneud llawer a llawer o ffrindiau!X

Ben o Pen-Y-Bont
Mae'r ysgol yma yn gret. Roeddwn yn gapten y tim pel droed. Fy hoff athro/athrawes yw Mr ap Iwan.

Kelly Jones
Mae'r ysgol yma yn ysgol gret iawn!

Lauren
Rydw i'n mynd i Llanhari yn 4 wythnos:( rydw i eisiau aros yn yr ysgol mae o mor dda!

Aimee o Ogmore Vale
Dydw i ddim eisiau gadael am Llanhari oherwydd mae Bro Ogwr yn gret. Rydw i'n hoffi yr athrawon i gyd. Mrs proctor,Mr ap iwan a Mrs williams yw'r gorau!

Bethan o Brackla
Mae'r ysgol yn gret

Brittany o Backla
Rydw i yn caru Bro Ogwr ac rydw i'n meddwl bod Mr.Evans yn ffab!!!!!!

Aled
diolch miss davies a miss gatt am dysgu fi

kate cook
bro ogwr yw y gorau dwyn dwli ar y ysgol ma!!!!

Megan o Bro Ogwr
Mae'r athrawon yn ffab.

Sam o Broadlands
Roeddwn i wedi adael yr ysgol yn 2006, roedd e'n 1 o'r amseroedd hapusaf rwyf wedi cael erioed.

Kate Cook
BRO OGWR YW Y GORAU

seren, pen -y-bont
dwi`n hoff iawn o ysgol bro ogwr!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý