91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Yr Hogwr Atgofion Ysgrifenyddes gyntaf
Mawrth 2007
Helen Davies, ysgrifenyddes gyntaf papur bro Yr Hogwr yn cofio yn ôl i'r rhifyn cyntaf a gyhoeddwyd ugain mlynedd yn ôl, ar Fawrth 1, 1987.

'Dw i ddim yn gwybod amdanoch chi ond wrth ddewis cerdyn pen-blwydd ar gyfer achlysur arbennig fel 40, 50, 60 ac ati rwy'n eitha' hoff o'r cardiau yna sy'n rhoi'r flwyddyn y cafodd y person ei eni/ ei geni ac sy' n rhestru rhai o ddigwyddiadau pwysig y flwyddyn honno - 'rwy'n siŵr eich bod wedi eu gweld nhw yn y siopau.

Wel yn 1987 beth ddigwyddodd? Ydych chi' n gallu cofio?

Ionawr 1: Beijing. Wnaeth cannoedd o fyfyrwyr brotestio ar sgwâr Tiananmen
Ionawr 20:Terry Waite yn diflannu ym Meirut.
Chwefror 4: Y pianydd Liberace yn marw
Mawrth 6: llong Herald of Free Enterprise yn roi drosodd oddi ar arfordir Zeebrugge, Gwlad Bel gan ladd o leiaf 188.
Ebrill 6: Gemau y diweddar Dduges Windsor yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant yn Genefa am £31 miliwn
Mehefin 11: Margaret Thatcher yn cael ei hethol fel Prif Weinidog Prydain am y trydydd tro - y tro cyntaf i'r peth ddigwydd am 160 o flynyddoedd
Awst 16: 16 o bobl yn cael eu saethu yn Hungerford gan Michael Ryan
Hydref 16: Y storm waethaf ym Mhrydain am 300 o flynyddoedd. 17 o bobl yn cael eu lladd a 15 miliwn o goed yn cwympo pan wnaeth y gwyntoedd gyrraedd 146k yr awr.
Ac, fel bydd pob athro/athrawes dros ryw oedran arbennig yn cofio, 1987 oedd dyfodiad yr anfad Gwricwlwm Cenedlaethol.

Ond i ddod yn nes adre'. Beth ddigwyddodd yma? Wel yn bersonol wna i ddim anghofio 1987 am ddau reswm. Yn gyntaf, taith arbennig iawn i wlad Israel o dan arweiniad y Parchg A Lloyd - siwrnai a ddaeth â'r Beibl yn fyw - ac yn ail, ymddangosiad o rifyn cyntaf Yr Hogwr.

Rwy' n cofio sut yr oedd hysbyseb bach wedi ymddangos yn y Glamorgan Gazette yn gofyn am rai oedd â diddordeb mewn sefydlu papur bro i ddod i gyfarfod yng Nghlwb Brynmenyn. Wel, nid oeddwn erioed wedi bod i Frynmenyn heb sôn am fod mewn clwb - ond dyma fentro draw. Ychydig iawn oedd yn y cyfarfod cyntaf. Etholwyd Dafydd Ieuan Jones yn gadeirydd a minnau yn ysgrifenyddes. Yna yr oedd y dasg o geisio perswadio pobl i ddod at ei gilydd - galw i weld y Parchg W Rhys Nicholas a ffonio Mr John Brace o'r bocs ffonio ar West Rd Notais. Credwch neu beidio, er ein bod bron â chyrraedd diwedd yr ugeinfed ganrif, nid oedd ffôn gennym yn y tŷ^!

Wel, fel mae'r hen ddywediad yn mynd - "mae'r gweddill yn hanes". Ar ôl llawer o bryderu ymddangosodd y rhifyn cyntaf ar Fawrth 1 of 1987 ac mae'n dda i ddweud bod y papur yn dal i fynd ac wedi cyrraedd rhifyn 200 - ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Gan obeithio y bydd yn parhau i'r dyfodol i hybu Cymreictod ardal bro Ogwr.

Helen Davies

Mwy am rifyn cyntaf Yr Hogwr


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý