Dathlodd un o bileri a chymwynaswyr y gymdeithas yng Nghwmfelin, Maesteg ei phen-blwydd yn 100 oed yn ddiweddar. Fe'i ganwyd yn Llwydarth Road, Maesteg ar Chwefror 15fed 1909 ac fe'i magwyd gan ei mam-gu a thad-cu yn un o 9 o blant. Ei thad-cu (ei Thad, mynte hi) oedd un o deulu fferm Tentwyn' ac yn un o deuluoedd gwreiddiol yr ardal (cyn dyfodiad y chwyldro diwydiannol). Yn wir, erys yr enw Tentwyns' arnom fel teulu hyd heddiw! Hi yw un o'r ychydig rai sy'n dal i siarad Cymraeg yn nhafodiaith yr ardal, a hynny yn loyw heb dderbyn unrhyw addysg Gymraeg ond am yr Ysgol Sul.
Magwyd fel plentyn yn selog i'r achos yng Nghapel y Bedyddwyr Calfaria, Cwmfelin, lie mae'n dal yn aelod ffyddlon ynghyd a'i merch Linda ac ŵyr, Gareth Huw sydd yn organydd yno erbyn hyn. Gan nad oedd cofrestr na thystysgrif priodi yng Nghalfaria ar y pryd (yn wir, ei merch Nesta oedd y cyntaf i briodi yno yn 1957), pan ddaeth yr amser iddi briodi Albert Evan (Alb Ifan i'w ffrindiau) Edwards o Maiden Street, Cwmfelin penderfynwyd priodi yng nghapel ei darpar rieni yng nghyfraith sef Zion, Castle Street Maesteg ar Ebrill 1af, 1929. Sylwch ar y dyddiad! Pan gyrhaeddodd hi a'i gwesteion Capel Zion ar fore'r briodas, nid oedd y capel ar agor iddynt, a'r gweinidog a'r gofalwr ill dau wedi mynd ar wyliau am y dydd, wedi anghofio am y briodas. Gan eu bod i gyd wedi gwisgo i'r achlysur a'r bwyd wedi ei baratoi i'r gwesteion eisoes, penderfynwyd chwilio am gapel arall i'w priodi ynddo. Wedi chwilio am awr neu ddwy, cawsant afael ar weinidog Cannan, St. Michael's Road a'r prynhawn hwnnw cafwyd priodas hapus iawn yno.
Ganwyd iddynt bedair o ferched: Linda, Doreen, Nesta a Gwyneth. Camgymeriad fyddai rhoi eu hoedrannau rhag i mi gael stŵr gan un neu fwy ohonynt! Nid peth newydd!
A beth amdani fel piler a chymwynasydd? "Ati hi oedd ei chymdogion a ffrindiau yng Nghwmfelin i gyd yn rhedeg pan oedd unrhyw grisis," meddai un o'i chymdogion a hen ffrind annwyl iddi yn ystod y cyfnod dathlu. "Yn wir, pan oedd argyfwng ar unrhyw deulu, byddai rhywun yn siŵr o anfon am 'Aunty Vi,' neu 'Mrs. Edwards number 23' -bydd hi'n gwybod beth i wneud." Ac felly y bu. Pan oeddwn i'n blentyn cofiaf yn iawn fod yn nhŷ mam-gu a rhywun yn cnocio'r drws yn gryf a chrio bod hwn neu hon wedi marw ac roedd angen iddi fynd i'r tŷ ar unwaith i osod allan y corff yn 'garcus'.
Petai darpar fam yn barod i eni ei babi, byddai'r cymydog yn galw amdani i helpu cyn meddwl am ddod o hyd i'r fydwraig! Hi hefyd oedd un o'r rhai a ail-sefydlodd Carnifal Cwmfelin ac yn un o'r trefnwyr am flynyddoedd lawer -a phob tro gyda'r cyntaf i fynnu bod pawb yn gwisgo gwisg ffansi. Rwy'n cofio ei gweld fel chwaraewr rygbi, cowboi, tylwythen deg ayb. Ac mae'n dal yr un fath. Mis Tachwedd diwethaf cawsant barti yn Hafan Deg lie mae'n byw yn ei fflat a hithau wedi gwisgo Ian fel cowboi!
Collodd ein tad-cu yn 1978 a mawr oedd ei galar. Ond 15 mlynedd arall a hithau yn 75 mlwydd oed ail briododd a Jac Matthews. Bu farw Jack 10 mlynedd yn ôl.
Cafodd ddau barti pen-blwydd. Un oedd yn dderbyniad dinesig ar y dydd Gwener cyn ei phen-blwydd gyda Maer Bwrdeistref Sirol Penybont-ar-Ogwr a'r Cynghorydd Sir dros Gwmfelin a Llangynwyd, Malcolm James, Plaid Cymru. Ill dau yn cyflwyno blodau iddi. Cafodd gardiau llongyfarch gan Rhodri Morgan, Pwyllgor Etholaeth Ogwr, Plaid Cymru a sawl AS a AC. Cawsom fwyd bendigedig wedi ei drefnu gan Gwmni 'Valleys to Coast' sy'n rhedeg fflatiau Hafan Deg.
Ar ddiwrnod ei phen-blwydd daeth bron i 100 o bobl ynghyd yng Nghlwb Squash Maesteg am ychydig o noson lawen a pharti. Yn eu mysg oedd ei theulu i gyd, ei neiaint a nithoedd a hen gymdogion a ffrindiau. Cafwyd eitemau gan ei phedair merch, canu gan y Pedwarawd adnabyddus Pergan, sef Gareth Huw a Carolyn (wyrion) a Laura a Meilyr Hedd (gor-wyrion). Cafwyd hefyd unawdau gan Laura, Gareth Huw, Molly (gor-wyres) a Ruby (ei gor-wyres ifancaf yn 4 oed ac sydd fel nifer o'i chefndryd yn ddisgyblion Ysgol Gymraeg Cynwyd Sant, Maesteg).
Gorffennwyd y noson gyda Careoci a nifer fawr yn canu iddi. Er i'r noson ddechrau yn gynnar am 6 o'r gloch rhag ofn iddi flino, nid oedd yn fodlon mynd oddi yno tan iddi weld bod y rhan fwyaf o'r gwesteion wedi gadael. Ni chyrhaeddodd adref tan wedi 11 y nos. Dyna stamina i fenyw 100 oed!
Nid oedd am dderbyn anrhegion lu yn ei hoedran hi meddai -felly penderfynwyd mai'r syniad gorau fyddai gofyn am rodd ariannol i'w rhoi i elusen. Codwyd dros £200 punt i Feddygfa Bronygarn, Maesteg.
Y frawddeg orau a glywais ganddi ddiwrnod ei phen-blwydd wrth ddangos y garden a gafodd gan Frenhines Elizabeth oedd, "Pwy ond y hi fase'n anfon carden pen-blwydd gyda'i llun ei hunan arni dwed!"
Gareth Huw Ifan