91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Parchedig Robin J. Williams Cofio'r Parchedig Robin J. Williams
Ebrill 2006
Daeth ton o hiraeth dros y cwm o glywed am farwolaeth y Parchedig Robin J. Williams yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr ar y 10fed o Fawrth yn 95 mlwydd oed.
Roedd yna barch mawr iddo, yn enwedig yng Nghwm Llynfi lle y gwasanaethodd fel gweinidog yr Efengyl. Yn ystod y cyfnod hwn bu yn gymwynaswr ymroddedig ac yn gyfaill i lawer.

Bu'n weinidog ffyddlon i'r aelodau yn Eglwys Annibynnol Canaan Maesteg am bron i 42 o flynyddoedd. Ei oedfa olaf yno oedd ar fore Sul y 12fed o Chwefror eleni pryd y gweinyddodd y Cymun Sanctaidd a hynny ond rhyw dridiau ar ôl iddo ddychwelyd adref o ysbyty Castell Nedd/Port Talbot.

Bu hefyd yn gofalu am Eglwys Annibynnol Bethesda Llangynwyd am dros bymtheg mlynedd ar hugain. Yn anffodus gwelodd gau'r capel hynafol hwn ar ddechrau'r ganrif bresennol. Gwasanaethodd yn y mwyafrif helaeth o gapeli Cymraeg a Saesneg y cwm ac hefyd mewn niferoedd o gapeli tu allan iddo.

Gwasanaethodd fel ysgrifennydd Cyfundeb Cynffig Nedd am ddegawdau ac ef oedd cadeirydd olaf y Cyfundeb hwnnw. Edrychai ymlaen yn eiddgar i wasanaethu yng Nghyfundeb Dwyrain Morgannwg, y cyfundeb y daeth Eglwys Canaan Maesteg yn aelod ohono ers dechrau'r flwyddyn, ond nid felly bu.

Oherwydd prinder gweinidogion yn y Cwm roedd galw mawr am ei wasanaeth mewn angladdau, nid yn unig y byddai yn gwasanaethu'n eu hangladdau byddai hefyd yn ymweld â'r teuluoedd hynny gan gynnig cysur yr Efengyl iddynt yn gyson.

Ymaelododd â Chymdeithas Tŷ'r Cymry pan symudodd i Faesteg yn 1964 a mawr fu ei wasanaeth i'r gymdeithas honno dros y blynyddoedd. Bu'n ysgrifennydd i "Gyfeillion Ysbyty Gyffredinol Maesteg" am dros 30 o flynyddoedd ac fe wasanaethodd hefyd fel caplan i'r ysbytai lleol. Gwasanaethodd fel cadeirydd y Gymdeithas Hanes leol am 25 mlynedd ond roedd yn fwriad ganddo i ymddeol o'r swydd yn ystod y misoedd nesaf hyn. Roedd hefyd yn aelod o gangen leol y Rotary.

O Ynys Môn yn wreiddiol
Roedd y Parchg. Robin J. Williams yn enedigol o bentref Bryngwran Ynys Môn. Amaethwyr oedd ei deulu gan fwyaf, ac yn ôl y drefn deuluaidd roedd ef i ddilyn y traddodiad hwn. Yn un ar ddeg oed symudodd i Ysgol Cybi a oedd ar draws y ffordd i'r ysgol Ramadeg yng Nghaergybi.

Wedi gadael yr ysgol aeth i weithio ar fferm er fod hyn yn gas beth ganddo. Serch hynny dysgodd odro gyda'i ddwylo ac aredig y tir. Yn y gobaith o gryfhau ei ddiddordeb mewn ffermio cafodd ei hun yn gweithio i ffrindiau'r teulu ar fferm TÅ·'n Llwydan. Tra yno ymaelododd ag eglwys Hermon, Bodorgan, (capel sydd bellach wedi cau), gan fynychu gwasanaethau ar y Sul ac yn ystod yr wythnos. Dim ond am ychydig flynyddoedd y gweithiodd ar y fferm.

Y cam nesaf iddo oedd mynd i Gaer i dderbyn hyfforddiant mewn gofolaeth dros blant. Ar ddiwedd y cwrs derbyniodd swydd mewn ysgol fonedd a berthynai i'r Annibynwyr ym Mill Hill. Roedd y profiad yno yn hollol wahanol i'r un a gafodd ar Ynys Môn. Tra yno mynychai gapel King's Cross, Llundain.

Ymuno â'r fyddin
Ar ôl tair blynedd yno daeth y rhyfel a bu rhaid iddo ymuno â'r fyddin a threuliodd y rhan fwyaf o'r amser gyda'r Royal Artillery yn Dover. Wedi pum mlynedd yn y fyddin aeth nôl adref i weithio ar y fferm a mynychu eto gapel Hermon ac o'r capel hwnnw y cychwynnodd am y Weinidogaeth.

Wedi treulio blwyddyn yng Ngholeg Clwyd yn y Rhyl o dan hyfforddiant y Parchg. R.S. Hughes aeth i Goleg Coffa Aberhonddu. Ar ddiwedd y cwrs yno derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar eglwys Annibynnol Pant-y-crwys, Craig-cefn-parc. Tra yno priododd â Catherine Kirkhouse ysgrifenyddes Eglwys Seion y Glais; eglwys yr oedd yn ei chynorthwyo gan nad oedd ganddynt weinidog.

Yn ystod y cyfnod roedd yn weinidog ar eglwys Pant-y-crwys cafodd lawer o waith darlledu, yn arbennig rhaglenni i ysgolion.

Ar ôl saith mlynedd yng Nghraig Cefn Parc derbyniodd alwad i eglwys Canaan, Maesteg ac fe'i sefydlwyd yno ym Mehefin 1964.

Cynhaliwyd ei angladd yng Nghapel Canaan, ac yna yn Amlosgfa Margam, ar yr 20fed o Fawrth o dan ofal ei gyfaill y Parchedig Alwyn Evans, Maesteg. Cynorthwywyd ef gan y Parchedigion Euros Miles (Ruhamah Pen-y-bont a Noddfa Porthcawl), E.D. Morgan Llanelli (cyn weinidog yr eglwys) a Milton Jenkins, Caerffili (cyn weinidog Bethania, Maesteg). Cafwyd teyrngedau iddo gan Mr Jeff Woods, Swydd Efrog (mab i ffrind agos iddo) a'r Parchedigion Gareth Morgan Jones (Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg) ac Alwyn Evans.

Yna yn yr Amlosgfa cynorthwywyd y Parchg. Alwyn Evans gan y Parchedigion Hywel Wyn Richards, Tabernacl, Pen-y-bont (is lywydd yr Undeb), Meirion Evans, Porth Tywyn (cyn lywydd yr Undeb a chyn Archdderwydd Cymru), E.T. Stanley Jones (Cwmafan) ac Euros Miles.

Rhoddwyd hefyd deyrnged iddo gan y Parchg. Dewi Myrddin Hughes, (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

Gwelwyd cynulleidfa niferus lawn yn y ddau leoliad a oedd yn arwydd o'r parch a ddangoswyd i'r Parchedig Robin J. Williams yn y cyffiniau a thu hwnt. Yn eu plith roedd yna nifer o weinidogion, yn cynrychioli'r gwahanol enwadau.

Cleddir ei lwch ym medd ei briod ym mynwent eglwys Pant-y-crwys, Craig-cefn-parc. Gweinyddir yno gan un a fedyddiwyd ganddo, y Parchedig Sion Alun (Sgeti, Abertawe).

Estynnwn ein cydymdeimlad i'w frawd a'i chwaer ac aelodau eraill o'r teulu yn eu galar.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý