Dydd Llun y Pasg arferai'r minteioedd ddod ynghyd i'r Tabernacl o gapeli'r cylch - Betharan Brynmenyn, Bethel Newydd, Heol-y-cyw, Bryn Seion Pencoed, Ebenser Abercynffig, Elim Mynydd Cynffig, Gilead Coety, Siloam Cefn Cribwr a Thabernacl Pen-y-bont. Cynhelid tair oedfa, un y plant yn y bore gyda chynrychiolwyr o blant y gwahanol eglwysi'n darllen yr emynau a'r oedolion yn y prynhawn a'r nos. Rhwng yr oedfaon, er hwylustod i bawb a deithiai, byddai bwyd ar gael a'r gwragedd wrthi'n paratoi a gweini'r byrddau. Roedd diwrnod y Gymanfa yn ddiwrnod mawr yng nghalendr eglwysi Annibynnol yr ardal. Ond gyda chylch y Gymanfa'n lleihau cryn dipyn a diddordebau'r oes yn newid, rhywfodd daeth yr hen draddodiad i ben. Dymchwelwyd hen gapel y Tabernacl yn Adare St a phan godwyd yr adeilad newydd yn Heol y Dderwen nid adferwyd y Gymanfa yn yr un ffordd. Ers nifer o flynyddoedd bellach cynhelid Cymanfa ar Sul y Blodau ac, er i nifer o ffrindiau deithio ar wahanol adegau i gynorthwyo gyda'r canu, cyfrifoldeb capel y Tabernacl yn unig oedd yr Wvl. Er i'r oedfaon mawr hyn fod yn bur lwyddiannus, sylweddolair selogion mai adlewyrchiad yn unig o'r hyn a fu a gafwyd. Eleni, wedi trafodaeth brwd, penderfynwyd arbrofi gan addasu'r Gymanfa i gwrdd â gofynion yr oes bresennol. Cynhaliwyd un oedfan unig i blant ac oedolion fore Sul Ebrill 6ed yn hytrach nag ar Sul y Blodau am y tro eleni, gan y byddai llawer o'r plant oddi cartref ar eu gwyliau erbyn hynny. Llywyddwyd gan ein gweinidog, y Parchg. Robin Samuel, yr arweinydd oedd Kevin Adams gyda Sheila Adams yn cyfeilio ar y piano a Gwynfor Humphreys yn cyfeilio ar yr organ. Dewiswyd emynau ar thema'r Pasg yn ein tywys o Sul y Blodau, trwy'r Groglith yr Atgyfodiad. Dechreuwyd gyda'r oedolion yn canu tra bod y plant yn gorymdeithio o amgylch yn chwifio "cangau'r palmwydd". Cyflwynodd gwahanol ddosbarthiadau'r Ysgol Sul, o'r plant ieuengaf teirblwydd hyd at y rhai yng nghanol eu harddegau, olygfeydd y Pasg yn raenus tu hwnt yn ôl eu harfer yn y seibiannau rhwng bod pawb, plant ac oedolion yn canu emynaur Pasg. Un arbrawf effeithiol dros ben oedd canu tôn gron a ysgrifennwyd gan Kevin Adams yn arbennig ar gyfer y Gymanfa. Fe'i canwyd dair gwaith a thri phennill gwahanol, y cyntaf yn cyfleu hwyl Sul y Blodau, yr ail tristwch hanes y Croeshoeliad a'r trydydd brwdfrydedd neges Atgyfodiad. Wedi i dair o'r merched hyn sôn am draddodiadau'r Pasg, mewn gwahanol wledydd gadawodd y plant er mwyn derbyn Wyau Pasg ac anrhegion yn yr Ysgoldy a daeth yr oedfa o fawl i ben gyda'r oedolion yn canu Mawr oedd Crist yn Nhragwyddoldeb. Croesawyd pawb yn blant ac oedolion wedi'r oedfa gael phaned a bynsen y Grôg tymhorol yn y Neuadd. Y farn gyffredinol oedd fod yr arbrawf yn un hynod lwyddiannus unwaith eto rhaid rhoi diolch arbennig i athrawesau'r Ysgol Sul yn ogystal ag i'r arweinydd, cyfeilyddion am y gwaith a wnaed i sicrhau'r llwyddiant. Gwerthwyd rhaglenni a threfnwyd bod elwr Gymanfa'n mynd tuag at The Stroke Association.
|