Ar fore hyfryd o Fehefin daeth 34 o aelodau Tabernacl Porthcawl a'u ffrindiau ar ein pererindod eleni i ymweld â hen Eglwys Carcharorion Rhyfel Henllan.
Gadawyd Porthcawl toc wedi deg er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd Gwesty Llwyndafydd cyn hanner dydd. Wedi mwynhau'r wledd, cerdded yr ychydig lathenni i gapel Saron Llangeler i ymuno yn eu Cymanfa Prynhawn.
Yno cawsom groeso cynnes gan bawb ac roedd pob un ohonom wedi mwynhau yn fawr iawn y canu dan arweiniad Mrs Rhiannon Lewis. Roedd yn wasanaeth i'w gofio ac ôl ymarfer trylwyr ar waith y côr. Estynnwyd y croeso wedyn i'r festri ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r chwiorydd am y lluniaeth a baratowyd ar ein cyfer.
Toc wedi pedwar roedd y bws yn tynnu i mewn i safle hen gamp y carcharorion rhyfel. Safle sydd yn awr yn cael ei galw yn Ystad Ddiwydiannol Henllan ac roedd y perchennog Mr Robert Thompson yn aros amdanom.
Tywysodd ni i gyfeiriad yr hen eglwys gan aros yma ac acw i roi hanes y safle, manylion oedd yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r hyn fu yn digwydd yno dros chwe deg mlynedd yn ôl.
Y foment fawr oedd cael mynediad i mewn i'r hen Neuadd Gysgu drowyd gan y carcharorion o'r Eidal yn eglwys Gatholig.
Mae dau beth yn syfrdanol, y lluniau a grewyd gan Mario Ferlito a'r ffaith fod y cyfan yn dal yno i ni gael eu gwerthfawrogi heddiw ac mewn cyflwr mor ardderchog.
Mae' n anhygoel fod gŵr ifanc ugain oed wedi gallu creu'r fath ddarluniau o gysidro'r adnoddau oedd ar gael iddo yn ystod y rhyfel.
Uwchben yr allor mae murlun o'r Swper Olaf ac ar bob un o'r wyth bwa mae yna ddarlun crefyddol. Rhaid oedd defnyddio adnoddau naturiol megis ffrwythau, llysiau a blodau i greu y lliwiau.
Mae'r gweddill hefyd yn werth eu gweld o'r pileri "Marmor", yr allorau, y canwyllbrennau, a'r bŵau yn y to, y cyfan yn wyrthiol i feddwl eu bod wedi eu creu allan o hen fagiau sement, tiniau "Bully Beef', bocsys bwyd y Groes Goch ac unrhyw beth y gellid ei ail gylchu.
Dyma bererindod arall i'w chofio. Roedd y tywydd yn braf, ein cinio yng ngwesty Llwyndafydd yn ardderchog, y gymanfa yn wefreiddiol ac wedyn yr ymweliad â hen Eglwys carcharorion Rhyfel Henllan yn agoriad llygaid i bawb ac yn binacl ein diwrnod.
Os ydych am ddarllen hanes yr eglwys, yna gallwch brynu llyfr Jon Meirion Jones Y Llinyn Arian sydd yn un o Gyhoeddiadau Barddas. Yno cewch y stori gyflawn mae'n werth ei darllen.
Mae'n ddyledus diolch i lawer o bobol am sicrhau llwyddiant y diwrnod, y trefnwyr, Gwesty Llwyndafydd, Gweinidog ac aelodau Saron Llangeler ac yn arbennig i Mr Thompson am ganiatáu i ni weld y trysor amhrisiadwy yma mae wedi gweithio mor galed i'w warchod. Mi fyddai yn drychineb pe bai'r eglwys fechan hon yn cael ei cholli o achos difaterwch.