Ein beirniad oedd Mr Rhodri Gwyn Jones a chafwyd eitemau gan Ifan a Gwenan Jenkin a'r cyfan yn cael eu llywio yn hwylus iawn gan y Parchg Robin Samuel.
Eleni eto cafwyd noson o chwerthin iachus wrth i'n beirniad dafoli cynyrchiadau pawb yn garedig a hwyliog.
Rhwng y beirniadaethau roedd yn fraint cael gwrando ar eitemau Gwenan ar y trombone ac Ifan ar y piano, heb anghofio cyfraniad eu mam Catrin. Diolch yn fawr i'r tri.
Rhaid llongyfarch pawb fu wrthi yn ddiwyd yn cyfansoddi, heb eich gwaith caled fyddai'r Hogwr ddim yn gallu cynnal y noson.
Yn arbennig llongyfarchiadau gwresog i'r Parchg Dewi Thomas am ennill y Goron. Ei waith yn gorffen stori yn dechrau gyda'r
geiriau "Gan bwyll...", ddyfarnwyd y gwaith gorau o'r holl gystadlaethau.
Diolch i swyddogion y Tabernacl am ganiatáu i ni ddefnyddio eu hadnoddau, maent yn hwylus, yn gyfleus ac yn ganolog i ardal Yr Hogwr. Diolch i Rhodri am gymryd at y gwaith o feirniadu, i'r rhai fuodd yn paratoi cwpaned i ni gael cymdeithasu ar y diwedd, a diolch hefyd i bawb a'n cefnogodd ar y noson.
Y Parchg Dewi Thomas - Enillydd Coron Hwyl yr Hogwr 2007 am orffen stori
"Gan bwyll nawr, paid â chynhyrfu, rhag i ti wneud rhywbeth fyddi'n dyfaru amdano gweddill dy fywyd. Rwy'n deall yn iawn pam dy fod ti mor gymysglyd dy deimladau, ac mewn un ffordd fedra i ddim o dy feio di. Ond eto, rwy'n crefu arnat ti i ymdrechu i goncro dy dymer ddrwg."
Anodd iawn fyddai cael perswâd ar y mab yma. Roedd e'n ymwybodol gymaint oedd e wedi gweithio dros ei dad, cymaint oedd e wedi gweithio ar y fferm, fel roedd e wedi bwrw ati heb gael cymorth gan neb. Doedd e ddim wedi cwyno mewn unrhyw ffordd ac wedi derbyn yr her, a dyma fe'n ateb ei dad:
"Paid â sôn wrtha i am faddau - mae hynny'n anoddach na dim. Pam ddylwn i faddau iddo fe? Fe ofynnodd am ei siar ac fe gafodd hynny yn ei law cyn mynd a'n gadael ni. A nawr, ar ôl cwympo'n fflat ar ei wyneb mae e eisiau dod nôl i ofyn am ragor wrthym. Na, dad, ana i ddim edrych yn garedig arno fe. Gad iddo fynd i'r diawl. Does dim ne iddo fe yma o'm rhan i."
Safodd y tad yn stond. Trodd at y mab hynaf a dweud: "Clyw ma, hapus a balch dylwn ni fod o'i weld e unwaith eto. Ron i wedi meddwl, efallai, na chlywn ni fyth dim amdano fe mwy. Ond mae e wedi dangos i ni heddiw fod gobaith yn dragwyddol, bod dyfodol eta iddo fe yn ein teulu ni os derbyniwn i e. Rwy'n begian arnat ti, ystyria pa mor anodd mae e wedi bod arno fe. Meddylia faint oedd hi'n olygu iddo fe orfod cyfadde ei ffolineb. Trïa feddwl am y cywilydd oedd yn ei deimlo wrth ddod yn ôl. Trïa weld bod rhyw elfen o ddaioni yn perthyn iddo fe o hyd."
Cododd y mab o'i gadair, edrychodd i fyw llygaid ei dad ac fe welodd y dagrau'n cronni yno. Rhoddodd ei freichiau o amgylch ei dad a thynnodd e tuag ato i'w anwylo'n glos, ac meddai: "Wyt ti'n gweld, dad, mae hwn yn dy frifo di am yr ail waith wrth ddod yn ôl. Does dim ots ganddo fe am neb, mae e'n rhy hunanol i weld sut wyt ti a fi yn cael ein brifo, sut mae'r loes a'r tor-calon wedi'n llorio ni. Ti'n gwybod, dy drafferth di yw dy fod di'n rhy garedig, yn rhy ystyriol, o'r rhai sy'n gweithio yn dy erbyn di. Calla, plîs, a dwed wrtho fe fod dim croeso iddo fe yma mwyach. Mae e' wedi gwneud ei ddewis unwaith, ei fusnes e nawr yw dal i fynd a chrwydro'r byd a'n gadael ni'n llonydd. Rwyt ti'n byw yn yr oes o'r blaen, oes y derbyn nô1, oes y dioddef tawel, oes y maddau diamod - ond mae pethau wedi newid, ti'n gwybod, pawb am ei hunan yw hi nawr, does dim rhaid siario bellach, yn y cadw mae'r gyfrinach. Pryd wyt ti'n mynd i ddod allan o dy dy gwydr ac ymuno â ni yn y byd real ?"
Safodd y tad yn dawel am funud ar garreg yr aelwyd, edrychodd i'r tân, a llifodd ei ddagrau lawr ei wyneb. "Na" meddai, "mae maddau yn rhan anhepgor o fywyd. Yn ein maddau mae ein bodlonrwydd i'w weld. Yn ein maddau mae ein caredigrwydd yn dangos. Yn ein maddau mae'n mawredd ni'n dod i'r amlwg. A dyma i ti'r gwir: bach feddyliais i fod yn rhaid i mi faddau i ddau fab."