91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Trefor Davies Enillydd Coron
Rhagfyr 2006
Enillwyd Coron Hwyl yr Hogwr gan Trefor Davies am ei stori yn dechrau gyda'r geiriau - "Paid A dweud wrth neb" ...
'Paid a gweud wrth neb...' Dyna' i eirie d'wetha imi. Ond shwd allwn i gadw'n dawel. A beth bynnag, bydde pobol yn siŵr o holi. Jacob y dyn dall yn gallu gweld! Ac ma' pawb yn 'nabod i achos mod i'n ddall. Bydd pob un yn sylwi arna i pan fyddai i' n mynd ma's.

Rwy'n cofio un tro pan o'n i'n grwtyn ma's 'da'r bois yn whare ac yn towlu cerrig. Da'th hen ŵr draw i weud y drefen wrthon ni. Fe ofynnws e am enw pob un, heblaw amdana i. Roedd hi'n ddigon rhwydd iddo fe gofio pwy o'n i. Ma' pethe fel 'na'n wa'th na bod yn ddall. Ma'n warth ar y teulu i gyd, fel staen brwnt. Bydd rhai rownd y demel yn ddigon haerllug i weud wrth Mam taw teulu drwg yw'n teulu ni!

Ma' bod yn ddall yn beth normal i fi! A gweud y gwir, yn ' y nghalon, mae ofon gweld arnai i. Shwd byddwn i'n ymdopi? Fyddwn i ddim yn nabod neb wrth 'u gweld nhw! A shwd bydde hi arna i petawn i'n gallu gweld anifeilied? Adeilade? Y wlad? Ma' n hala cryd arna i. Ma' Mam wedi mynd a fi at bob doctor yn y wlad. Wedi trio popeth ond do's dim wedi gwitho. Nawr ma' Mam yn cadw mla'n ishe i fynd at yr Iesu yma. A'r dydd o'r bla'n da'th Miriam a'r stori adre shwd ro'dd e wedi glanhau ryw druan o'r gwahanglwyf. Er mwyn ca' l llonydd dyma fi'n cytuno mynd pan fydde Iesu nesa yn y cyffinie.

'Mhen sbel da'th y newydd 'i fod e yn Bethsaida felly dyma Jethro yn nhywys i i'r dre. Ro'dd hi'n ddigon rhwydd gw'bod ble ro'dd Iesu oherwydd yr holl gynnwrf o'dd o'i gwmpas e. Ro'n i wedi clywed bod dwsin o ddisgyblion yn 'i ddilyn e i bobman. Ro'dd eisie dynon cryf arno fe i'w amddiffyn ac i gadw'r holl bobol draw. Ac ro'dd un neu ddou garw 'da fe! Ro'dd tipyn o hwpo ond rhedws Jethro drwyddyn nhw a'r peth nesa ro'dd Iesu ar 'y mhwys i'n whilia ' da fi.

Y peth cynta 'na'th e o'dd gaf'el yn fy llaw i a mynd a fi ma's o olwg pawb fel petai e'n gw'bod y fath gryndod o'dd tu fiwn i fi. Y peth nesa 'na'th e o'dd dodi poer ar fy llyged i. Do'dd hyn ddim yn ddiarth i fi o gwbwl. Ron i wedi clywed y stori rai wythnose'n ôl fel ro'dd Iesu wedi rhoi clyw i ddyn byddar a gwella' i atal gweud drw' boeri a dodi'i fysedd yn 'i glustie. A blynyddo'dd yn ôl pan o'n i'n grwt bach fe driws sawl doctor rhoi golwg i fi drw' ddodi poer ar fy llyged. Ac ro'dd ffydd gan Mam miwn poer. Pan fydden i'n llosgi mys ar rywbeth po'th bydde hi'n gweud, 'Doda fe yn dy geg'. A phan fydden i' n cered miwn i wely o ddanadl poethion ac yn ca'l 'y migo'n gas bydde Mam yn siwr o weud, 'Poera ar dy fys i'w rhwto ynddyn nhw'. A wir. ro'dd e'n gw' ithio bob tro! Ond w' ithws e erio' d ar fy llyged i.

Yn y tawelwch y tu fa's i'r dre dyma Iesu'n gofyn i fi os o'n i'n gallu gweld. Codes fy ngolygon ac ar fy ngwir ro'dd peth golwg 'da fi! A wedes i wrtho fe mod i'n gallu gweld rh'wbeth fel co'd cyn gweud taw dynion o'n nhw achos ro'n nhw'n cerdded! Ro'n i wrth 'y modd; diwrnod gore mywyd i. Ond do'dd hyn ddim yn ddigon da i Iesu, rhyw hanner gweld! Felly dyma fe' n dodi' i ddwylo eto ar fy llyged i ac yn awr gallwn weld popeth yn glir, hyd yn o' d pethe o' dd yn bell i ffwrdd. Safes yn syn. Agores a chaees fy llygaid i brofi i fi fy hunan mod i'n gallu gweld a dim breuddwydo ro'n i. Ro'n i'n fud am sbel. Ac yna fel pwll y môr dechreues weud wrth Iesu mor ddiolchgar o'n i. Fe wenws e arna i. Yna miwn llais difrifol fe siarsws e fi, 'Cer sha thre a paid a gweud wrth neb!'


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý