91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Catherine Anthony gyda Sophie, Iarlles Essex Cymdeithas y Ffermwyr Ifanc
Medi 2003
Bu Cymdeithas y Ffermwyr Ifainc yn rhan hanfodol o ddatblygiad pobl cefn gwlad dros y cenedlaethau. Yno cafwyd hyfforddiant mewn crefftau fferm a thy, siarad a dadlau ar goedd, chwarae'n iach, a bu'n fan cyfarfod i fwy nag un gwr a gwraig.
Diflannodd llawer o glybiau, ond mae clwb Pen-y-bont yn parhau i ffynnu. Bob blwyddyn cynhelir cystadlaethau lleol, a'r gorau yn mynd ymlaen i gystadlu ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Yn ddiweddar bu aelodau clwb Pen-y-bont yn llwyddiannus dros ben, gan gipio gwobr y gorau ym Morgannwg. Daeth mwy o anrhydedd i un aelod ifanc, Catherine Anthony o Tythegston. Hi enillodd gwpan arbennig yr aelod ifanc unigol orau, ac aeth ymlaen i gipio'r wobr dros Gymru gyfan.

Yn rhinwedd y wobr, Catherine oedd y llysgennad iau yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ddiwedd Gorffennaf . Daeth â chyfle arbennig i ferch 16 oed i ehangu ei phrofiad y tu mewn i gylch diogel ac addysgol. Mae Catherine yn dysgu'r iaith Gymraeg, yn ddisgybl yn ysgol Bryntirion a newydd gwblhau ei arholiadau TGAU.

Dywed Catherine am y pedwar diwrnod yn Llanelwedd ei bod hi wedi mwynhau'r profiad, and yn cydnabod ei bod yn nerfus. Gofynnwyd iddi fod yn bresennol mewn derbyniadau a chyfarfod pobl bwysig gan gynnwys y Tywysog Edward, ond uchafbwynt ei chyfrifoldebau oedd hebrwng yr Iarlles Essex o gylch arddangosfa y Ffermwyr Ifainc.

Y pwnc eleni oedd 'Y Caribi', a chafwyd llawer i ddehongliad yn yr arddangosfa greadigol yn ogystal â'r coginio, gwaith coed ac ati. Dangosodd yr Iarlles ddiddordeb mawr ym mhopeth, a gorfod iddi ruthro oddi yno i gyflawni ei dyletswyddau eraill ar y maes.

Erys y ffermwyr ifainc mewn pentref, hynny yw casgliad o garafannau a phebyll ryw filltir o faes y Sioe ei hun, a rhaid cyrraedd erbyn nos Sul i gael y safleoedd gorau. Arhosodd merched clwb Pen-y-bont mewn pabell pedair ystafell. Cafodd Catherine fwy nag un broblem yn ystod yr wythnos - yn gyntaf yr oedd yn rhaid iddi godi'n gynnar wedi nosweithiau hwyr, a dim and dwr oer oedd yn y cawodydd. Ond beth yw hyn pan ydych and 16 oed!

Gwahoddwyd Comisiynydd Amaeth Ewrop Franz Fischler i'r Sioe gan y ffermwyr ifainc. Yr oedd brecwast wedi ei drefnu iddo ond aeth yr amser, a gadawodd heb brofi'r bwyd. Bu'n traethu am ddyfodol amaeth a chefn gwlad, a gofynnwyd lawer cwestiwn pwrpasol gan yr ifanc. Dywedwyd iddynt gael trafodaeth dda. Anogodd Franz Fischler iddynt beidio a phyderu yn ormodol am y dyfodol, and roedd llawer yn amau ei Ym mis Hydref bydd Catherine yn cynrychioli Cymru ac yn cael cyfweliad yn Stoneleigh i ddewis yr ifanc orau o Brydain.

Ein dymuniadau gorau iddi.

Eurwen Richards


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý