Pe byddech chi'n ffermwr yn Bolivia ac am wrteithio'ch tir, gallech chi ddim a gwneud yn well na defnyddio mwydod.
Pam mwydod? Am eu bod nhw'n organig, yn rhatach a gwell o lawer i'r amgylchedd na chemegau ac maen nhw'n cyfoethogi'r tir i gynhyrchu rnwy a gwell cnydau. Mae hynny'n golygu fod cynnyrch dros ben gan y ffermwr i'w werthu, ac mae'r arian ychwanegol yna wedyn, yn helpu i dalu am addysg, lloches a meddyginiaethau.
Un o anrhegion Present Aid, cynllun anrhegion gwahanol ac ymarferol Cymorth Cristnogol, yw tuniaid o fwydod sy'n costio £15. Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf mae Present Aid wedi llwyddo i godi £7 miliwn trwy gynnig anrhegion amgen tebyg, gan roi'r cyfle i filoedd o bobl dalu am bethau sydd o wir werth i rai o bobl dlotaf y byd.
Mae llawer o Gristnogion yn anhapus fod cymaint o bwyslais ar wario arian adeg y Nadolig, a bod rhodd Duw i'r byd yn lesu yn cael ei anghofio. Credwn ni mai un ffordd o wrthweithio hyn, a dangos ein ffydd a'n cariad tuag at Dduw a'n cymdogion, yw trwy roi i elusennau, yn lle prynu anrhegion diangen i'n ffrindiau a'n teulu. Pan fod gan y rhai sydd agosaf atom bopeth sydd ei angen arnynt, gall 'rhodd ymarferol' fod yn gymaint, os nad mwy, o arwydd o'n cariad â siocled, persawr neu grys newydd.
Mae'r cynllun yn un syml iawn. Pan fyddwch yn prynu anrheg 'Present Aid', fe gewch gerdyn gyda llun o'r anrheg a gwybodaeth am waith Cymorth Cristnogol mewn perthynas â hi. Fe allwch chi hefyd ychwanegu neges bersonol cyn rhoi'r cerdyn i'ch ffrind neu aelod teulu adeg y Nadolig. Mae'r arian y byddwch yn ei roi i Gymorth Cristnogol am yr anrheg, yn cael ei gyfeirio at gronfa'r brosiect sy'n gysylltiedig â hi. Er enghraifft, mae'r arian a roddir am dun o fwydod yn mynd i mewn i'n cronfa amaethyddiaeth ac anifeiliaid. Mae yna 5 cronfa arall hefyd, yn cynnwys: Paratoi ar gyfer argyfyngau; Gofal iechyd a HIV; Pŵer ac egni; Hyfforddiant ac Addysg; Dŵr a'r amgylchedd. Felly mae digon o ddewis.
Mae'r catalog yn lliwgar ac fe gewch lot o hwyl yn pori trwy'r anrhegion anarferol. Ond fe gewch hefyd eich ysbrydoli wrth weld sut mae prynu anrheg wahanol yn gallu gwneud gwahaniaeth ym mywydau rhai o bobl dlotaf ein byd. Gellir cael copiau o Present Aid trwy gysylltu â'ch swyddfa Cymorth Cristnogol leol, neu efallai bod gan eich eglwys neu gymuned gyflenwad ohonynt yn barod? Ond cofiwch archebu eich anrheg yn ddigon cynnar (cyn 15 Rhagfyr os ydych chi am wneud yn siwr fod y cerdyn yn cyrraedd erbyn y Nadolig). Gellir hefyd brynu anrhegion Present Aid yn uniongyrchol ar ein gwefan arbennig. Ewch i www.presentaid.org
Mae yna rywbeth ar gyfer pawb yn Present Aid, o anifeiliaid fferm i rwydi mosgitos, o roi'r cyfle i gael addysg i becynnau cymorth brys adeg argyfwng. Yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo mae mudiad AMO-Congo, partner Cymorth Cristnogol, yn addysgu plant sv'n amddifad oherwvdd HIV mewn pob math o bynciau, gan gynnwys defnyddio cyfrifiadur. Gall eich anrhegion Nadolig chi eleni heIpu rhoi i bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i waith a rhoi to uwch eu pen. Pa ffordd well o ddathlu a rhannu cariad rhyfeddol Duw.
Pwy fyddai'n meddwl bod agor 'tuniaid o fwydod' yn gallu bod mor llesol!
Robin Samuel