Mae Sian Moran o Ysgol Tang Soo Do y Pîl wedi dychwelyd yn
fuddugoliaethus o l0fed Pencampwriaeth byd y Ffederasiwn Tang Soo Do Rhyngwladol. Daeth cystadleuwyr byd eang at ei gilydd yn Orlando Florida ar Awst l-3ydd ac yn eu plith oedd y garfan o Gymru yn cynrychioli tim Prydain. Enillwyd dros 40 medal yn gyfan gwbl rhwng yr ugain cystadleuydd o Ysgolion Tang Soo Do y Pîl, Cwm Ogwr a Llantrisant.
Cafodd Sian lwyddiant ysgubol personol yn y gystadleuaeth. Enillodd fedal efydd yn y categori arfau ac arian wrth chwalu byrddau pren â dwylo a thraed noeth yng nghategori menywod gwregys du (ail a thrydydd Dan). Yna, brwydrodd trwy'r rowndiau i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth ymladd. Er ei bod dan anfantais taldra trwy gydol y gystadleuaeth, llwyddodd i gipio'r fedal aur a theitl Pencampwraig y Byd trwy gyflawni tro-gic ddwbl anarferol yn yr eiliadau olaf. Hoffai Sian ddiolch o galon i'w hyfforddwr ardderchog y Meistr Richard Heilings (pumed Dan) am ddysgu'r dechneg fuddugol iddi!
Mae Tang Soo Do yn fath o grefft hunan-amdiffynnol sy'n debyg i Tae Kwon Do. Am fwy o fanylion am Ysgol Tang Soo Do Meistr Hellings yng Nghanolfan Bywyd y Pîl, cysylltwch â Siân: 01639 710595 neu 0759 3556268
|