Taliesin fyddai wedi camu i'r llwyfan yn y flwyddyn 586 OC gyda'i gyfrol waedlyd Y Gododdin, ac mi fyddai Daniel Owen yn hen law ar ei areithiau diolch ar ddiwedd y 19eg Ganrif. Buasai dagrau o lawenydd wedi syrthio yn Sir Benfro o glywed taw Dail Pren gan Waldo Williams ddaeth i'r brig yn 1956, a blwyddyn yn ddiweddarach buasai Wythnos yng Nghymru Fydd wedi dod ag addurn bach i lenwi silff ben tân Islwyn Ffowc Elis. Ond dyna'r Gymru a fu. Yn 2004, rhai o'r enwau mawr fydd yn cystadlu am wobr Llyfr y Flwyddyn fydd Iwan Llwyd, Eigra Lewis Roberts, Archesgob Caergaint, Bethan Gwanas, Myrddin ap Dafydd, Cefin Roberts, Jason Walford Davies, Dafydd Evans, Angharad Tomos, Bobi Jones a Caryl Lewis. Gall y gyfrol fuddugol fod yn gofiant, bardd, prifardd, beirniad neu'n gyn-ganwr pop. Gall y gyfrol fuddugol fod yn gofiant, yn gasgliad, yn feirniadaeth arloesol neu'n nofel nwydus am wrachod. Y cyfan sy'n sicr yw y caiff y cyfrolau buddugol - un yn Gymraeg ac un yn Saesneg - eu darllen a'u mwynhau cymaint gan ddarllenwyr y dyfodol a gweddill clasuron ein llên. Amserlen Digwyddiadau 4 Mawrth 2004 Diwrnod y Llyfr: Cyhoeddi'r rhestr-hir (20 o deitlau - 10 yr un yn y ddwy iaith) yn y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y bwcis Jack Brown yn cymryd bets ar y rhai fydd yn y ras. Mawrth - Mai 2004 Taith genedlaethol gyda'r awduron; rhestr-hir - darlleniadau, arddangosfeydd, ymweliadau ysgolion, trafodaeth a chyfle i fynegi barn ar y teitlau. Diwedd Mai 2004: Cyhoeddi'r rhestr-fer (3 yn y ddwy laith) mewn digwyddiad arbennig yng Ngwyl y Gelli Gandryll. 17 Mehefin 2004 Gwledd wobrwyo fawreddog i gyhoeddi'r enillwyr yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd. Amlenni euraidd, sieciau mawrion a digon o siampên.
|