Ceisiais wneud cyfiawnder â'r awr ddifyr wariais yn ei gwmni. Diolch iddo am roi o'i amser.
Fel y gwelir ar y map roedd Pwll Glo Newlands ar gyrion pentrefi Corneli a'r Pil.
Roedd ewythr David yn gweithio yn y Siop Saer ac eisiau bachgen i ddod ato i ddysgu ei grefft, felly manteisiodd David ar y cyfle ac aeth yno i weithio yn syth o'r ysgol. Bu yno tan iddynt gau y pwll ym mis Mawrth 1968. Cyfnod o 35 o flynyddoedd.
"Ar y mwyaf tua 800 oedd yn gweithio yno, ond yn ystod y rhyfel fe aeth y nifer i lawr i tua 400."
Ar y map fe welir fod rheilffordd yn dal i redeg drwy dir Newlands.
"Y rheilffordd yma oedd y PTR. y Port Talbot Railway, a adeiladwyd i ddod â glo o'r cymoedd i waith dur Port Talbot ac ar y ffordd byddai'r trên yn casglu glo o Netirlands."
Cyflog cyntaf David oedd 12/6 yr wythnos.
"Roeddwn yn meddwl fy mod wedi cael ffortiwn" meddai gan chwerthin. Ychwanegodd, "A pan oeddwn yn cael codiad cyflog roeddwn yn cael 4 ceiniog y dydd yn rhagor, sef 2 swllt yr wythnos."
Trefn y talu ar ddiwedd yr wythnos oedd i'r arian ddod o Abertawe ac roedd David yn un o'r rhai oedd â'r cyfrifoldeb o roi yr arian mewn tuniau bach ar rac yn y swyddfa yn barod i'r gweithwyr eu casglu ar ddiwedd eu shift. Dywedodd,
"Y mwyaf o arian rwy'n cofio ei roi mewn tin oedd £36 punt am wythnos o waith, ond roedd y glowr oedd yn derbyn yr arian yma sef y First Hand, yn gorfod talu y rhai oedd yn gweithio tano, sef y Second Hand a'r bechgyn, allan o'r arian yma. Fyddai neb yn derbyn yr amodau yma heddiw!"
"Trefn y dydd oedd dechrau am 7 y bore a gorffen am 3.40, amser od yn tefe, hynny yw os oeddech yn gweithio ar y wyneb, roedd y gweithwyr tan ddaear yn dechrau am 7 ac yn gorffen am 2.30. Roedd pawb yn cael "Snap Time" am ugain munud o 11 - 11.20, sef amser bwyd. A dyna'ch unig amser yn rhydd yn ystod eich shift. Pawb wrth gwrs yn mynd â brechdanau gyda nhw i'r gwaith. Roedd bechgyn siop y Gof yn dod i lawr i'r siop Saer i fwyta eu Snaps. Pryd hynny cafwyd tipyn o hwyl a thynnu coes. Roedd crefftwyr da yn gweithio yn Siop y Gof, bechgyn first class."
"Roedd ceffylau yn gweithio tan ddaear ac ar yr wyneb. Roedd dwy stabal tan ddaear gyda Ostler yn gyfrifol am y ceffylau.
"Fy nghyfrifoldeb oedd gwneud unrhyw beth oedd angen ei wneud mas o goed. Gallai hyn fod yn gwneud drysau i'w defnyddio tan ddaear, trestles, shuttering ar gyfer gwaith concrid, gwneud y blociau pren oedd wedyn yn cael eu leinio gyda Brake Linings Ferodo ar gyfer brakes y peiriannau tan ddaear, unrhyw beth."
Fel pob gwaith glo roedd llysenwau yn frith ac roedd David yn chwerthin wrth gofio rhai ohonynt."
Will up and down. Will dribble, Ike Och, Idris cochyn a'i dad Bill cochyn, Tommy trot, Tommy one side, Owen pull tight."
"Cafodd Owen pull tight ei enw gan taw ef oedd yn gyfrifol am fesur gwaith y gwithwyr tan ddaear. Roedd y gwr arall, Edgar, yn gweithio gydag e i ddal pen arall y tâp mesur yn dyn. Pan fyddai Owen yn barod i fesur y gwaith fe'i clywyd yn gweiddi ar Edgar "Pull Tight."."
Dau welliant yn ei amser yn Newlands oedd agor y "Canteen" ac agor y Baddonau Molchi y "Pithead baths."
"Roeddech wedyn yn gallu mynd i'r gwaith lân a dod gartre'n lân" oedd sylw David.
"Byddai'r dillad brwnt yn dod gartre ar ddiwedd yr wythnos i'w golchi."
"Diolch byth toedd dim llawer o ddamweinie ond rwy'n cofio dynon yn cael eu lladd dan gwymp glo neu ddram yn rhedeg i ffwrdd wedi i shackle dorri. Byddech yn gwybod pan fyddai glowr wedi ei ladd, byddai'r dynion i gyd yn stopio gweithio ac yn dod yn ôl i'r wyneb i ddangos parch i'r gweithiwr a gollodd ei fywyd."
(Erthygl i'r Hogwr gan Tom Price. Noson Hwyl yr Hogwr 2005.)