Am ei bod yn stori sy'n rhoi sylw i elfennau tyner y byd, yn araf a thawel yn gweithio mewn cariad. A dyna pam y mae'n werth ail-ymweld â stori'r Nadolig o flwyddyn i flwyddyn. O wneud hynny, un o'r pethau a welwn yw fod y stori yn digwydd ar ymylon cymdeithas. Teulu bach yn cael eu cau mas a heb le cysurus i orffwys. Ac yn hynny o beth mae stori'r Nadolig yn stori gyfarwydd i lawer o bobl heddiw sydd ar ymylon cymdeithas - stori o eithrio. Diffyg lle, diffyg derbyniad, diffyg diddordeb, diffyg croeso. Yn ddiddorol, er nad yw Ioan, yn cyfeirio at stori'r Nadolig yn y prolog i'w efengyl, yr un yw ei neges ef, "Daeth i'w gartref ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono." Pam fod Duw yn galw heibio, mae'r drws ar glo a neb yn ateb. Y mae gan y ddynoliaeth brysur bethau gwell i'w gwneud na sylwi ar ddigwyddiadau dibwys ar ymylon cymdeithas. . Ond y mae'r efengyl yn mynd yn ei flaen i ddweud mai dyma'r esgeulustod mwyaf oll, oherwydd wrth fethu estyn trugaredd i'r blinedig a'r digartref, yr ydym hefyd yn eithrio yr Un sy'n cynnig i ni fywyd yn ei holl gyflawnder. "Yn gymaint ag ichwi ei beidio a'i wneud i un or rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith." Trwy stori syml y geni fe ddysgwn un o wirioneddau dyfnaf Cristnogaeth: fod Duw yn Dduw yr ymylon, wastad yn ceisio cael ei adnabod. Onid dyna'r gred a ysbrydolodd rhywun fel Y Fam Teresa? Yng ngwynebau y trueiniaid, fe welai hi apêl ddyfnach Iesu am gysur a derbyniad, ac fe wnaeth yr hyn a allai hi i roi lloches iddo ef yn ogystal â'r dioddefwyr corfforol oedd o'i chwmpas. Lloches a chroeso, dyma'r arwyddion syml o ddynoliaeth erioed. Ond onid yw'r parodrwydd i'w cynnig wedi mynd ar goll yn y Gymdeithas Orllewinol Gyfoes? Gwneud lle i bobl eraill yn ein bywydau. Cymaint ohonom sy'n pledio prysurdeb a blinder fel esgus dros beidio gwneud. Mae'r dasg ddiddiwedd o ennill arian i gynnal ein hunain yn cymryd blaenoriaeth, ac mae'r ymdrech i gwrdd a'n "anghenion" cynyddol yn ein llethu, fel ein bod ni'n cael ein rhwystro rhag agor ein bywydau i bobl eraill.
|