Bydd Dydd Sul y 12fed o Fehefin yn aros ar gof nifer fawr o aelodau a ffrindiau'r capel. Dyna'r diwrnod i ni fynd ar ein pererindod. Wedi taith hwylus ar y bws a chinio hyfryd yng ngwesty'r Castell yn Llanymddyfri, ymlaen i dy Pantycelyn lle cawsom groeso arbennig gan Mr a Mrs Cecil Williams. Ar ôl canu emyn o eiddo William Williams ar y clôs, ymlaen i gapel Pentre Ty Gwyn a chael oedfa hynod o afaelgar gan ein gweinidog pan roddodd i ni bregeth ar emyn Williams sydd a'r geiriau "Gwaed dy groes sy'n codi i fyny 'r eiddil yn goncwerwr mawr: Gwaed dy groes sydd yn darostwng cewri cedyrn fyrdd i lawr :" Oddi yno i Eglwys Llanfair ar y Bryn a chael braslun o hanes yr Eglwys cyn ymweld â bedd a chofgolofn yr emynydd, ac ymlaen i'r Capel Coffa i gael hanes y lle hwnnw. Mwynhau cwpaned wedyn yn y gwesty cyn gadael am adre. Diwrnod a roddodd i nifer fawr ohonom y cyfle i ddod i wybod rhagor am yr emynydd, am ardal bro ei febyd, a throedio llwybrau y bu ef yn troedio arnynt. Diolch o galon i bawb a fu wrthi yn trefnu a chyfrannu i lwyddiant y fenter newydd yma. Tra bu'r oedolion ar bererindod, aeth aelodau yr Ysgol Sul ar daith gan ymgynnull ym Mhwll Nofio y Pîl ac yna i'r Le Raj am ginio. Braf fyddai medru mynd ar bererindod gyda'n gilydd. A oes gennych syniadau? R Price
|