Roedd yn hyfryd gweld gymaint yno, croesdoriad o'r aelodau, plant ifanc yn ogystal â'r canol oed a'r hynafgwyr a rhai wedi teithio o bell er mwyn bod yn bresennol yn y cyfarfod. Paratowyd bwffe ardderchog gan yr aelodau ac wedi i bawb fwyta'n helaeth a chael cyfle i sgwrsio â'i gilydd, parhawyd â'r noson dan lywyddiaeth dihafal Hugh Thomas. Galwyd ar yr adlonwyr o blith yr aelodau - triawd o offerynwyr yn gyntaf Lowri Phillips ar y Delyn, a Sheila Adams ac Elin Phillips ar y ffliwt, yn ail yr unawdwr baritôn Iwan Guy gyda Lowri Phillips yn cyfeilio ac yn drydydd Eirianwen Stanford gyda Alwyn Samuel yn cyfeilio, yn canu geiriau a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Y Parchg. John Gwilym Jones, Bangor, cyn weinidog ar Robin a'i deulu, a ysgrifennodd y gân ar y dôn y Mochyn Du. Cyfeiriwyd yn y penillion at amrywiol ddiddordebau Robin - criced, rygbi, bwyd Indiaidd yn eu plith - a'r gynulleidfa'n ymuno yn y gytgan a'r byrdwn calonogol "Gallai fod yn lawer gwaith, bydd Robin yn dal yma". Galwyd wedyn ar gyn-ysgrifennydd yr eglwys, sef Mr D Handel Harries i siarad a gwnaeth hyn yn ei ffordd bwyllog arferol gan gyfeirio at y blynyddoedd er 1944 pan y daeth ef a Mrs Harries yn aelodau a'r Parchg. Cyril Bowen yn weinidog newydd pryd hynny. Enwodd nifer o'r ffyddloniaid a fu'n gofalu am yr adeiladau ac am y buddsoddiadau ariannol, soniodd am y cyfnod cyffrous yn hanes y Tabernacl pan ddymchwelwyd yr hen gapel yn Adare St a chodi'r adeilad braf newydd yn Derwen Road a chyfeiriodd ar y gweinidogion a olynodd Mr Bowen, sef y Parchgn Ronald Williams ac Ifan Wynn Evans cyn dod wedyn at hanes galw'r Parchg. Robin Samuel a oedd ar y pryd yn weinidog yn Nhrelech. Cyfeiriodd at ei ddawn arbennig i "gadw'r teulu'n hapus", soniondd am y barbaciw flynyddol, tripiau'r Ysgol Sul a the'r tô hyn, soniodd am ein teithiau blynyddol fel capel i ymweld â mannau cysegredig gan nodi Ty Ddewi, Pantycelyn a'r Gangell, a soniodd hefyd am waith Robin gyda gweithgareddau'r Cyfundeb, yr Undeb a Thy John Penri a'i ddiddordeb arbennig mewn Cymorth Cristnogol. Cyfeiriodd ar yr Ysgol Sul ffynnianus lle bu Janet, gwraig Robin yn arolyges a soniodd am y gwaith da a wnaed yno ganddi hi a'i chyd athrawesau gan nodi pwysigrwydd y Gymraeg yn hanes y Tabernacl. Diolchodd i Robin am ei ofal drosom mewn storm a hindda yn ystod ei gyfnod fel gweinidog arnom ac am bopeth a wnaeth i hwyluso dyfodol y Tabernacl. Yn sicr bydd hiraeth o'i golli fel gweinidog ond llawenydd wrth gofio y bydd yn dal wrth law. Cyflwynodd siec sylweddol o Robin, arian a gyfrannwyd yn arbennig gan yr aelodau i ddangos eu hewyllys da tuag at y gweinidog a'i deulu ac hefyd llun dyfrliw hyfryd o'r Tabernacl.
|