Yn ôl y Swyddfa Dywydd, roedd haf 2006 yn gynhesach ac yn fwy heulog nag arfer yng Nghymru, ac, er gwaethaf Awst gwlyb, dim ond 66% o law arferol yr haf a gawsom - y lefel isaf mewn unrhyw ardal ym Mhrydain.
Blwyddyn dda i ffrwythau
Nid yw' n ymddangos bod y sychder wedi cael effaith ddifrifol ar ein coed a'n llwyni ffrwythau. Daeth dechrau heulog Mai ag amodau ardderchog ar gyfer peillio a ffurfio ffrwythau, gyda llawer o rywogaethau, fel y ddraenen wen, y ddraenen ddu a'r gerddinen, yn drymlwythog o aeron. Ac er bod yr afalau yn fy ngardd berllan yn niferus hefyd, maen nhw'n llai eu maint nag arfer, a gall hyn hefyd fod yn un o arwyddion y sychder.
Bydd ein poblogaethau parhaol o adar yn gwledda ar y cyflenwad helaeth yma o ffrwythau ymhell i mewn i'r gaeaf. Nid yw'n ymddangos bod adar wedi dioddef yn ormodol yn yr haf sych, er y ceir adroddiadau o gywion yn marw yn y nyth oherwydd y gwres. Ond, elwodd nifer o rywogaethau adar ar dymor paru heulog, gyda nifer yn sôn am wenoliaid yn magu ail nythaid. Mae'r adar yma'n casglu gyda'i gilydd yn llawn cyffro ar y gwifrau ym mis Medi, yn barod am y siwrne hir i dde Affrica.
Lliwiau'r hydref
Bydd y tywydd sych wedi achosi problemau i'r adar hynny, fel y mwyalchod, sy'n bwydo ar ein lawntiau am fwydod a chreaduriaid eraill y pridd, ond bydd glaw mis Awst wedi lleddfu eu trafferthion. Mae'r cyfnod poeth, sych, hir a ddilynwyd gan fis Awst cynnes a gwlyb hefyd wedi darparu amodau da i ffyngau'r glaswelltir, gyda mycolegwyr yn rhagweld cnydau da o fadarch y maes yr hydref hwn.
Mae arbenigwyr coetiroedd hefyd yn disgwyl sbloets o liwiau'r hydref eleni o ganlyniad i'r cyfnod sych hir.
Ym mis Medi 2006 gwelwyd y llanwau uchaf ers nifer fawr o flynyddoedd, ac, wrth lwc, arweiniodd y tywydd llonydd at beidio ag erydu'r glannau. Mae'r cyfnod yn dilyn y llanw mawr yn amser da i fynd i chwilota ar hyd y traeth, gyda chyllyll môr, gwichiaid moch a chreaduriaid eraill yn frith ar ymyl y don. Ond gwymon, sydd bellach yn fwyd i sbonc y glennydd a phryfed eraill, yw rhan fwyaf y broc môr, a byd yn darparu maetholion gyda hyn i'r planhigion unflwydd ar ochr y twyni, fel yr hegydd arfor.