91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Yr afon Donaw yn llifo drwy Bwdapest Helpu Hwngari i gofio gwrthryfel
Tachwedd 2002
Gwahoddwyd Côr Bro Ogwr i berfformio ym Mwdapest ym mis Hydref i ddathlu gwrthryfel enbyd Hwngari yn erbyn y llywodraeth gomiwnyddol.
Darostyngwyd y gwrthryfelwyr yn gyflym ac yn greulon gan lofruddio 20,000 o bobol Hwngari.

Ers diwedd goruchafiaeth y Rwsiaid maen nhw'n dathlu'r achlysur gyda balchder.

Eleni ymunodd Côr Bro Ogwr â Cherddorfa Symffoni Pest mewn dwy gyngerdd i ddathlu.

Braint mawr i'r côr
Meddai arweinydd Côr Bro Ogwr, Alun John: "Mae'n fraint fawr i'r côr. Roedden ni wedi trefnu i ymweld â Hwngari i berfformio cyngherddau amrywiol pan ofynnodd ein lletywyr i ni berfformio gwaith ychwanegol.

"Cytunwyd i berfformio Elias gan Mendelssohn yn Academi Gerdd
Franz Liszt ym Mwdapest ar Hydref 23ain, sef Gwyl Genedlaethol Hwngari ac yn Neuadd Bella Barttok yn Debrecen y noson ganlynol."

Dywedodd Sir Geoffrey Inkin, conswl anrhydeddus Hwngari yng Nghaerdydd: "Mae ymweliad Côr Bro Ogwr â Bwdapest yn enghraifft ragorol o orwelion eang diwylliant Cymraeg. Bydd y côr, gyda'i draddodiad cerddorol yn siwr o groeso cynnes iawn.

Perfformio gwaith Schubert
Yn ystod ei ymweliad hefyd perfformiodd Côr Bro Ogwr Mass yn G gan Schubert yn Eglwys Matyas a chyngerdd o weithiau amrywiol yn Eglwys Gadeiriol dinas Eger.

Fe deithiodd 140 o aelodau'r côr i Hwngari. Arweinydd y côr a'r gerddorfa oedd Alun John a'r unawdwyr oedd Iona Jones (soprano); Elisabeth Johanssen (contralto); Richard Allen (tenor) ac Adam Green
(²úâ²õ-·¡±ô¾±²¹²õ).

Erthygl gan Liz James



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý