Eleni, fe fyddaf yn tyfu tomatos unwaith eto yn y tÅ·^ gwydr. Rwy'n ysu am flasu tomato ffres yn syth o'r ardd, a gwres yr haul yn dal arni. Os mynnwch, gallwch eu tyfu mewn potiau ar batio heulog. Rwy'n tyfu fy rhai i mewn grow bags yn y tÅ· gwydr. Gofalwch eich bod yn defnyddio y bagiau trwchus o multi purpose compost gan fod angen digon o fawn i gynnal y planhigion am dri mis neu fwy.
Gallwch dyfu tomatos mewn tŷ gwydr ar ddiwedd Ebrill neu ddechrau Mai ond gwell aros tan wres yr haul ar ddechrau Mehefin cyn tyfu rhai ar y patio. Gallwch brynu planhigion da fel Alicante neu Ailsa Craig mewn canolfan arddio. Rhowch ddwy blansen ym mhob bag, torri y side shoots wrth iddynt dyfu gan gadael y blaen dyfiant i dyfu tua 5 troedfedd. Wrth i'r planhigion dyfu clymwch gansen bambŵ wrth bob un er mwyn dal y pwyse.
Ar y goes gref yma bydd y tomatos yn tyfu. Gelwir pob clwm yn truss a bydd angen i chi adael tua 5 truss ar bob coesyn. Mae'n bwysig dyfrio'r planhigion yn gyson gan ofalu nad yw'r mawn yn sychu allan. Pan fydd tomatos bach i'w gweld ar y truss cyntaf gallwch ddechrau eu bwydo unwaith yr wythnos gyda rhywbeth tebyg i Tomorite.
Os hoffech dyfu tomatos bychain melys, sef rhai ceirios [cherry tomatoes] does dim angen torri'r side shoots - gadewch iddynt dyfu fel jyngl! Cofiwch eu clymu i fambŵ. Un o fy ffefrynnau yw Gardeners' Delight. Math newydd ar y farchnad yw tumbler tomato a gallwch dyfu rhain mewn potiau plastig mawr a bydd y planhigion yn crogi dros yr ochrau. Bydd rhai pobol yn eu tyfu mewn basgedi crog ac mae'r tomatos yn edrych yn brydferth iawn.
Os ydych am wneud hyn ewch am Tumbling Tom neu Tumbler. Tip
da i helpu'r tomatos i gochi rhowch groen bananas ar y mawn o gwmpas y planhigion! Mae'n debyg bod rhyw nwy arbennig yn cael ei ryddhau o'r croen a hyn sydd yn gwneud i'r tomatos gochi.
|