Mewn cinio mawr a gynhaliwyd dan nawdd Bwyd o Brydain (Food from Britain), pan ddaeth gwneuthurwyr gorau cawsiau Prydain ynghyd i ddathlu'r traddodiad o wneud caws, dyfarnwyd hi yn Berson Caws y Flwyddyn 2007- anrhydedd arbennig sy'n mynegi gwerthfawrogiad o'i chefnogaeth gyson i wneuthurwyr caws Prydain.
Mae Eurwen yn bur adnabyddus ym Mhrydain a ledled y byd . Yn
gyn-lywydd Cymdeithas Technoleg Llaeth ac yn aelod er anrhydedd o Gymdeithas Gwneuthurwyr Caws Arbennig, eisoes, yn 2001, derbyniodd wobr a roddwyd gan Fwrdd Caws Prydain am ei gwasanaeth i'r diwydiant Caws.
Ond roedd y wobr ddiweddaraf yn un nad oedd yn disgwyl ei dderbyn ac felly'r achlysur yn un arbennig o gofiadwy iddi hi. Derbyniodd blac pren trawiadol i nodi'r achlysur.
Cystal nodi i Eurwen gyhoeddi llyfr llynedd sy'n olrhain hanes gwneud caws yng Nghymru ar hyd y canrifoedd. Mae'n cynnwys pob peth a allwch feddwl am wneud caws ac yn un difyr i'w ddarllen. Caws Cymru yw'r teitl a Gwasg Carreg Gwalch yw'r cyhoeddwyr.
Unwaith eto llongyfarchion gwresog Eurwen ar yr anrhydedd diweddaraf.
|