Daethon ni at ein gilydd fel grwp sy'n mwynhau ysgrifennu a chael hwyl gyda ffurfiau amrywiol o ysgrifennu. Aelodau'r sgwad ar hyn o bryd yw Teilo Evans, Tean Rudd, Anna Richards, Lowri Foster-Davies a Catrin Haf Jones a fi (Anwen Dixon) o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a leuan Dixon a Lewis Murray o Ysgol y Ferch o'r Sgêr.
Ar ddiwedd y gwyliau haf penderfynon ni gymryd rhan mewn cystadleuaeth oedd yn cael ei gynnal gan Academi i fynd i'r senedd ar gyfer diwrnod arbennig yn y Senedd i ddathlu deng mlynedd. Er mawr syndod i ni i gyd enillodd Sgwad `Sgwennu Penybont! Taith i'r Senedd
Ar y 29ain o Fedi aeth Sgwad 'Sgwennu Penybont i ddathliad y Senedd Cymru yng Nghaerdydd. Roedd yn ddiwrnod bendigedig! Aethon ni ar fws mini o Sarn gyda Siân Stephens o Fenter Bro Ogwr a Llinos Swain i ddechrau ar antur yn ein gwisgoedd ysgol i gynrychioli ein hysgolion.
Pan gyrhaeddon ni'r Senedd roedd e fel bod mewn maes awyr wrth i ni gerdded drwy'r 'metal detectors' un person drwyddo, dim bip, yr all un, dim bip, fy nhro i i fynd drwyddo bip bip!!!
Ar ôl i bob sgwad a fu'n fuddugol yn y gystadleuaeth gyrraedd roedd yn amser i ni fynd mewn i'r senedd i glywed am y senedd. Dysgon ni am bwy sydd yn gweithio yn y senedd a beth yw eu swyddi. Yna aethon ni draw i'r hen ystafell cyfarfodydd ac ymarfer bod yn aelodau o'r Cynulliad trwy rhoi ein barn ar fagiau plastig. A ddylen ni rhoi cost ar fagiau plastig neu a ddylen ni newid o fod yn blastig i ddefnydd arall.
Yna daeth uchafbwynt y dydd, cwrdd â'r bardd Ceri Wyn Jones ar gyfer gweithdy ysgrifennu cerddi. Dyna hwyl i chi! Roedd Ceri Wyn mor ddoniol, roedd wedi'n diddannu gyda'i storiau a'i jôcs, roedd yn fraint cael gweithio gyda fe.
Trafodon ni nifer o bethau a buon ni' n creu cerdd. Roedd Ceri Wyn am gasglu ein gwaith ni a gwaith y sgwadiau eraill ynghyd i
greu un cerdd. `Rydyn ni'n aros i dderbyn copiau o'r gerdd gorffenedig.
Mae'r sgwad yn cwrdd yn achlysurol ar gyfer cyweithiau amrywiol megis ysgrifennu stori arswyd ar gyfer Calan Gaeaf neu ysgrifennu a recordio sgript. Os oes diddordeb gennych i fod yn aelod o'r sgwad cysylltwch a fi yn Ysgol Gyfun Llangynwyd neu leuan yn Ysgol y Ferch o'r Sger.
Anwen Dixon
|