91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Y 'pererinion' ar ben yr Epynt Pererinion Pen-y-bont
Hydref 2007
Hanes ardal yr Epynt a Chwm Elan wrth i aelodau o gapel Tabernacl Pen-y-bont fynd ar bererindod i ardaloedd Brycheiniog a Maesyfed.

Pan soniodd Iorwerth Davies un bore Sul bod ei fryd ar drefnu pererindod arall i aelodau'r capel - ac o gofio'r daith i Ogledd Sir Drefaldwyn a'r un a drefnwyd gan y Parchg Hywel Richards i ardal Dolgellau - roedd yr ymateb i'r gwahoddiad yn un gadarnhaol. A'r gefnogaeth yn sicr, i ffwrdd a Iorwerth a Blodwen i archwilio ardaloedd Brycheiniog a Maesyfed i ddod o hyd i fannau o ddiddordeb i bawb ac wythnosau cyn cychwyn ar y daith cafodd pob un ohonom wybodaeth fanwl am bob rhan o'r daith a chyfeiriadau penodol i gyrraedd pob lle! I ffwrdd â ni ar fore braf ym mis Medi a chyrraedd Cadeirlan Aberhonddu yn brydlon gan roi cyfle i'r cwmni o 32 fwynhau'r coffi a'r scons ffres oedd yn ein haros!

Pleser o'r mwyaf i Iorwerth oedd cyflwyno ei ffrind Mr Greatorex, nid dim ond am ei fod yn hanu o Lanrhaeadr ym Mochnant (cartre Iorwerth) ond hefyd am ei wybodaeth hanesyddol am y Gadeirlan a'r cysylltiadau crefyddol â'r hen eglwys Geltaidd. Ie, tyfu o fod yn Eglwys y Plwyf i statws Eglwys Gadeiriol a dyma galon yr esgobaeth yn awr - y cyswllt rhwng y gogledd a'r de.

Fe glywsom ni am y Normaniaid yn adeiladu dros yr hen eglwys a da oedd sylwi bod enwau Cymraeg - Capel Ceinwen er enghraifft - wedi goroesi er gwaetha'r Normaniaid! Yn wir, yn ôl Mr Greatorex mae safle yr iaith wedi gwella i rywle yn ddiweddar.

Daeth yr ymweliad â'r Gadeirlan i ben a dyma'r garafan o geir ar y ffordd i gyfeiriad Capel Uchaf a Mynydd Epynt. Yno arhosom mewn man cyfleus ac ymgasglu yn yr awyr agored o gwmpas Heulwen Thomas i wrando arni yn adrodd ychydig o hanes hynt a helynt poblogaeth yr ardal hon.

Hanes ardal yr Epynt
Cafodd Heulwen ei geni a'i magu ar fferm ar ochr orllewinol i'r Epynt ac roedd yn dal i deimlo i'r byw dros y gymdeithas a chwalwyd yma adeg yr ail ryfel byd. A dyna ni yn glustiau i gyd yn clywed am y pum afon a lifai i'r dyffryn a'r pentrefi Cymreig ar odre'r mynydd. Sôn wedyn am yr enw Epynt. Efallai eich bod chi fel fi wedi derbyn yr enw heb feddwl am yr ystyr - ond dyma Heulwen yn egluro mai `Hynt llwybr yr ebolion' oedd yr enw hynafol - disgrifiad prydferth odiaith! Clywed wedyn am William Williams Pantycelyn yn croesi'r Epynt ar ei ffordd i bregethu a'n hatgoffa bod aml i gyfeiriad at yr ucheldiroedd yn ei emynau.

Pwysig yw cofio mai ardal ddiwylliedig oedd hon - capel ac ysgol yn Cilcienni yn 1856 a 50 o aelodau ac eisteddfodau di rif. Ond daeth newid mawr ar fyd yn 1939 - capten o'r fyddin yn cyrraedd i gyhoeddi bod y llywodraeth eisiau tir yr Epynt, y cartrefi a'r ffermydd a rhoi 57 niwrnod o rybudd i'r bobl ymadael. Bu rhaid i 220 o oedolion a phlant adael eu cartrefi a'u bywoliaeth! Chwalwyd y gymuned glos a gwasgarwyd y boblogaeth; roedd rhai yn gobeithio dychwelyd ond na, y milwyr biau'r tir ers hynny. The Range yw'r enw a roddir bellach ar Epynt a Burma Road yw'r ffordd sy'n mynd heibio i'r capel. Dywedodd un hen wraig oedd yn byw yno - "Mae' n ddiwedd byd yma!" - stori drist iawn.

Nôl i'r ceir a bant â ni at feddfaen Llywelyn ein Llyw Olaf ger pentref Cilmeri. Doedd dim maes parcio fan hyn felly y cyntaf i gyrraedd allai barcio ar ochr y ffordd - a'r lleill, wel parcio a cherdded!

Tro Beryl Thomas oedd hi nawr i gael sgwrs fach â ni wrth y feddfaen am y frwydr lle cafodd ein Llyw Olaf ei drywanu i farwolaeth. Stori drist arall o gofio nad bwriad Llywelyn oedd e i ymosod ar fyddin Lloegr - Dafydd ei frawd oedd am wynebu'r gelyn a Llywelyn o'i anfodd yn cefnogi. Y tristwch mwyaf wrth gwrs oedd iddo gael ei ladd gan un o filwyr Lloegr nad oedd hyd yn oed yn gwybod mai Tywysog Cymru a laddodd!

Roedd Beryl wedi paratoi taflen o farddoniaeth ar ein cyfer, cerddi a sgrifennwyd am y digwyddiad hwn yn ein hanes gan nodi wrth ddarllen mai'r darn buddugol Cilmeri gan Gerallt Lloyd Owen haeddai'r clod uchaf yn un o Eisteddfodau'r Urdd. Cawsom ddarlleniadau gwych ganddi o'r cerddi i gyd.

Wedi'r egwyl yng Nghilmeri troi' nôl am Lanelwedd wnaeth y pererinion i grwydro a chael pryd bach cyflym.

Ymlaen wedyn i Raeadr Gwy a throi i'r chwith am Gwm Elan gan ddod ynghyd yn y Ganolfan Ymwelwyr. Roedd yn dal yn ddiwrnod heulog braf ac yno fuon ni'n gwrando ar y Doethur John Elfed Jones yn adrodd hanes y trawsnewid a fu ar yr ardal hon yn ôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ie, newid byd ar drigolion rhan arall o Gymru.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd Cwm Elan yn ardal brysur fywiog iawn - mwyngloddio plwm a chopr a llawer i fferm ddefaid. A dyma'r gair pwysig eto - Ond! Roedd eisiau dŵr ar Lerpwl a Birmingham. Dyma gyfnod y Chwyldro Diwydiannol a phrinder dŵr ac felly yn 1892 cafodd Birmingham ganiatâd i adeiladu saith cronfa yn Elan a Chlaerwen. Saith cronfa! Doedd dim amdani ond boddi eglwys, ysgol, ffermydd a chartrefi a'r trigolion i gyd yn gadael. Ar ôl cael gwared â'r rhain i gyd yr orchest fawr oedd codi pedwar argae rhwng 1893 a1904 a gorchest hefyd oedd codi tref i filoedd ar filoedd o weithwyr (dim ond dwy fil oedd poblogaeth Gwauncaegurwen pan oeddwn i'n byw yno!) a siop a thafarn (wrth gwrs) a baddonau a rheilffordd ond, nodyn trist arall, cafodd cannoedd o'r gweithwyr eu lladd wrth godi'r argaeau.

Doedd dim hawl nag elw i Gymru am y dŵr. Gofynnwyd y cwestiwn "Pam rhaid talu am olew ond dim ceiniog goch am ddŵr?" Mae yna fwriad i ehangu argae Claerwen a agorwyd yn 1948 a chael dŵr i lifo o afon Hafren ac yna i Loegr. Cawn weld.

Roedd yn braf iawn ar lan yr afon wrth y Ganolfan a llawer o ymwelwyr yn mynd a dod a theuluoedd yn hamddena ond roedd yn bryd i ni adael a chyfeirio ein camre tuag at y dewis le nesa.

Nôl â ni i gyfeiriad Rhaeadr Gwy, dilyn yr A44 y tro hwn ac anelu am Cross Gates gan gadw llygad am yr arwyddbost i Nantmel Wedi cyrraedd y pentref roedd gennym 'gyfarwyddwr traffig' heb ei ail, sef Alun Roberts Jones i'n cyfeirio ar hyd lôn gul fawn i Gapel Carmel

Capel bychan hyfryd yr olwg mewn llecyn tawel diarffordd yw Capel Carmel a phan gyrhaeddon ni roedd Alwyn Samuel eisoes wrth yr organ tra bod dau o'r aelodau, Mr John Appleby a Mrs Shirley Cadwalladr yno i'n croesawu a Iorwerth yn barod i gyflwyno'r gweinidog, y Parchg Rydn Thomas (gwr o Bontyberem yn wreiddiol) a fyddai'n cynnal gwasanaeth byr cyn i ni, y gynulleidfa, ganu emyn John Thomas Capel Cae Bach - Am fod fy Iesu'n fyw - o Ganeuon Ffydd.

Wedi'r gwasanaeth cawsom ychydig o hanes y capel gan Mr Abbeley, sy'n hanesydd lleol. Mae'n debyg bod Annibynwyr yn cwrdd yn yr ardal yn 1688, ond nid mewn capel, yn hytrach yn Fferm Neuadd Lwyd y pryd hynny. Fe aeth llawer o flynyddoedd heibio cyn codi capel Carmel a Thomas Evans, Cymro Cymraeg, oedd y gweinidog cyntaf, yn 1824. Roedd un gweinidog ganddynt o 1906 hyd !950 - cyfnod llewyrchus iawn. Diddorol nodi y rhestrir y capel hwn yn y llyfr Chapels of Wales a hefyd mewn cyhoeddiad gan wasg Seren o dan yr enw Wales' Best Hundred Churches'.

Hwn oedd ein hymweliad olaf am y dydd a phawb yn barod i droi eu golygon i gyfeiriad Llandrindod a Gwesty'r Metropole - ein cartre am ddeuddydd. Pawb wedi blino ond blinder pleserus o wybod y byddai cinio blasus a gwely cysurus yn ein haros yno a chyfle i gymdeithasu a chael clonc cyn noswylio a disgwyl am yfory a thaith newydd o'n blaenau.

Felly mwy o hanes y bererindod yn rhifyn mis Tachwedd o'r Hogwr

Jennice Jones.


[an error occurred while processing this directive] 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý