91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Un O Enwogion Y Fro - William Thomas (1723-1811)
Mawrth 2005
Cofio am William Thomas, un o'r Tadau Methodistaidd, bu'n byw am y rhan fwyaf o' i oes yn fferm Tydraw, y Pil.

Gan ein bod wedi dathlu Diwygiad 1904/05 yn ddiweddar, efallai ei fod yn amserol i atgoffa darllenwyr yr Hogwr bod William Thomas, un o'r Tadau Methodistaidd, wedi byw am y rhan fwyaf o' i oes yn fferm Tydraw, y Pil.

Yn ffodus, ysgrifennodd y Parch Edward Matthews, Ewenni fywgraffiad amdano a ddefnyddiwyd fel sail i'r hanesion amdano a welir mewn cyfrolau sy'n trafod hanes y diwygiad Methodistaidd.

Ganwyd William Thomas ym 1723 yn ffermdy Dyffryn Uchaf ym mhlwyf Margam. Roedd William, fel y rhan fwyaf o'i gyfoedion, yn ŵr ifanc a hoffai bleserau'r dydd, gan ymhyfrydu mewn ymladd ceiliogod ac mewn gweithgareddau tebyg ar y Sul. Roedd yn llanc 16 mlwydd oed pan ddaeth o dan ddylanwad y Diwygiad Methodistaidd ar ôl clywed Howell Harris yn pregethu, a chafodd ei argyhoeddi ganddo.

Bu Howell Harris yn ddyfal iawn yn sefydlu seiadau trwy Forgannwg, gan gynnwys un yng nghartref tad William Thomas ym Margam. Dyma ddechrau achos "yr hen Ddyffryn" ym Margam. Ar y pryd doedd dim un offeiriad Methodistaidd ym Morgannwg o gwbl, ac fe fyddai William Thomas yn cerdded yn gyson yr holl ffordd i Langeitho i dderbyn y cymun gan Daniel Rowland, pellter o 120 o filltiroedd nôl a blaen, gan gychwyn allan nos Sadwrn dychwelyd erbyn amser gwaith bore Llun. Yn ddiweddarach daeth y Parchedig David Jones i Langan, ffrind agos i William Thomas, a doedd dim angen iddo deithio mor bell i gael cymun wedyn.

Priododd William Thomas, a dechreuodd bregethu. Yn 1760 symudodd i dyddyn o'r enw Tydraw yn y Pil (gerllaw safle'r Ganolfan Arddio), ac yma y bu'n byw am weddill ei oes, ac enw'r Pil a gysylltir a'i enw byth wedyn. Nid oedd capel gan y Methodistiaid yn y Pil pan ddaeth yma, a heb i neb ofyn iddo, dechreuodd William fynd o gwmpas y tai i ledaenu'r efengyl.

Mae'n bur debyg iddo sefydlu seiat ac efallai ysgol yn ei gartref. Nid oedd yn derbyn unrhyw dal am ei waith, ac yn ôl y sôn roedd yn rhoi swllt neu ddau i'r penteulu fel tâl am gael llefaru yn ei dŷ, yn enwedig os oeddynt yn dlawd.

Ar y pryd roedd tipyn o elyniaeth tuag at y Methodistiaid, ac adroddir amdano yn pregethu unwaith yn Sant-y-Brid lle'r oedd yr offeiriaid wedi rhoi cwrw i'r bobl er mwyn eu meddwi, gan sicrhau y byddent yn ymosod arno, gan daflu wyau a dom tuag ato. Ond ni lwyddasant i roi taw arno, daliodd ati i bregethu.

Yn raddol ffurfiwyd seiat; ac yna daeth angen am gapel, ond nid oedd tirfeddiannydd yn y cylch a oedd yn fodlon rhoi tir i'r Methodistiaid dirmygus er mwyn adeiladu capel.

Ond daeth llain o dir ar werth yn ardal y Pil. Prynodd William Thomas y meddiant, ac adeiladwyd capel yno, sef "Capel Carneli", Capel y Pil inni heddiw. Ymhen ychydig, adeiladodd ddau neu dri o dai yn ychwanegol ar y llain tir, a chyflwynwyd hwy yn rhodd at wasanaeth yr achos yno.

Ac yng Nghapel y Pil y cynhaliwyd Cyfarfod Misol Methodistiaid y fro, o barch i William Thomas am 80 mlynedd yn ddi-fwlch oddi ar 1782, sef yr enwog "Cwrdd Calan y Pil". Ym 1862 dywedwyd amdano "Y mae y cyfarfod hwn erbyn hyn fel rhyw ŵyl flynyddol, a chyrchfa fawr iddo o bob cwr o'r wlad, fel i le riwsalem gynt ar yr ŵyl arbennig".

Meddai y Parch Edward Mathews amdano : "Yr oedd yn fwy adnabyddus wrth yr enw William Thomas y gweddïwr, na William Thomas y pregethwr". Dywedwyd nad oedd yr un tŷ yng Nghymru a mwy o weddio ynddo na Thydraw'r Pil. Roedd y tŷ yn agos i'r briffordd o Abertawe i Gaerdydd, ac roedd yn amhosibl, meddant, i'r rhai a fyddai'n pasio heibio fore a hwyr, "beidio sefyll 'a thyrru o gwmpas y drws, pan fyddai yr hen ŵr o'r Tydraw yn ymbil a Duw".

Cafodd oes faith, gan gyrraedd 88 mlwydd oed. Bu farw ar Awst 2, 1811.

Gan Eirian E Edwards


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý