|
|
|
"Lawr sia'r Cop" Mai 2007 Atgofion plentyn am fynd i siopa i'r Cop gyda Mamgu a Bopa Jên. |
|
|
|
Arferai Mam-gu a'i chwaer Bopa Jên, fynd "lawr sia'r Cop" bron yn feunyddiol, fel arfer gyda'i gilydd, a minnau'n grwt bach yn dwlu ar fynd gyda nhw. Gallaf eu gweld nawr, y ddwy'n debyg rhyfeddol mewn cotiau hir tywyll a hetiau ffelt braidd yn ddisiâp ar eu pennau. Cariai'r ddwy bob i fag llipa llwyd-ddu tra'n dal yn dynn yn fy nwylo bach. Cawn siawns i neidio dros ambell linell ddu yn y pafin nes bod Mam-gu'n blino ac yn fy siarsio i gerdded yn deidi fel bachgen mawr.
Wedi cyrraedd y Cop (Cooperative Stores) ar gornel y stryd byddai cyfle iddi hi neu Bopa eistedd ar gadair bren â set grwn a dechrau rhoi'r byd yn ei le gan y byddai ambell un o'u cydnabod yn siŵr o fod yno ar yr un pryd ac i'r un perwyl.
Yn y dyddiau hynny 'mhell yn ôl cyn y rhyfel a chyn y doreth o reolau Glendid, Iechyd a Diogelwch sydd yn eu lle nawr ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, roedd llawer o'r nwyddau ar werth yn agored ar gownteri'r Cop. Llenwai'r arogl hyfryd - rhyw gymysgedd rhyfedd o fenyn, caws, cig moch, te, bara - fy ffroenau.
Fy hoff beth oedd cael penlinio ar y gadair neu ar arffed Mam-gu i bwyso 'mreichiau ar y cownter pren a gwylio'r siopwr yn torri tamaid o gaws â gwifren, neu yn torri'r menyn â chyllell anferth. Roedd y broses o bwyso a mesur a'r lapio deheuig wedyn mewn papur gwrthsaim yn rhyfeddod, a gwylio'r cig moch yn cael ei dorri, sleisen wrth sleisen, ar y peiriant mawr coch yn foddhad pur i mi. Ambell waith byddai Bopa Jên yn prynu chwarter o fisgedi o'r tuniau a safai'n bentwr sgwâr ger y cownter ac yn rhoi un neu ddau i mi i'w bwyta wedi i'r siopa ddod i ben. Diwrnod arbennig fyddai hwnnw!
Arferai'r siopwr ysgrifennu'r archeb ar lyfr Mam-gu gyda phapur carbon glas rhwng y tudalennau. Pan fyddai'r nwyddau'n ddiogel ar y cownter, diflannai'r llyfr pwysig i'r swyddfa ym mhen draw'r adeilad lle gofalai Miss Jones gofnodi'r cyfan cyn anfon y llyfr lliw hufen brwnt 'nôl i ddiogelwch bag Mam-gu. Cofiaf yn dda hi'n egluro i mi unwaith mor bwysig oedd y llyfr hwn gan mai ynddo y cofnodwyd y 'difi' a fyddai'n helpu i dalu am bethau annisgwyl rywdro yn y dyfodol pell. Ychydig wyddwn i bryd hynny taw cyfeirio at ei hangladd roedd hi.
Ambell dro cawn fynd i'r Adran Ddillad drws nesaf i brynu sanau ac yn fan 'na byddai'r arian a dalai'n cael ei drosglwyddo i declyn bach brown a wibiai wedyn ar wifren uwch ein pennau i'r swyddfa. Tra byddai Mam-gu a finnau'n aros yn amyneddgar ar bwys y cownter a hithau'n holi hynt a helynt teulu'r ferch ifanc a weinai arnom, saethai'r teclyn bach yn ôl ar y gwifrau fel bod Mam-gu'n cael ei newid cyn i ni adael y siop. Roedd fy llygaid i fel soseri wrth i mi synnu ar y rhyfeddod technolegol hyn.
Dwn i ddim pryd y pylodd yr hwyl o fynd gyda Mamgu a Bopa Jên - erbyn i mi dyfu'n "fachgen mawr" o oed mynd i'r ysgol siŵr o fod.
Dwn i ddim pryd chwaith y clywais ddiwethaf arogl hen siop groser yn fy ffroenau. Rhyw wthio troli rownd archfarchnad enfawr y byddaf yn wythnosol, yn ei lenwi â phacedi plastig lliwgar ac yn talu am y cyfan ran fynycha' gyda chardiau plastig yr un mor lliwgar. Caf brynu sanau neu beth a fynnaf dan yr un to a stwffio'r cyfan i grombil y troli mawr.
Efallai bod un peth yn gyffredin rhwng hyn a'r siopa a wnawn 'slawer dydd gyda mam-gu a Bopa Jên. Wrth gwrdd â ffrindiau yn y Cop bron bob dydd, llwyddai'r ddwy i ddarganfod bob tamaid o newyddion da a drwg ar led yn ein pentre bach. Yn yr un ffordd, wrth wthio ar hyd ambell i ale yn Tesco Express rwy'n cwrdd â mwy o 'nghydnabod nag a welaf mewn oes ar ben y stryd ac, er nad oes gen i'r gronyn lleiaf o ddawn 'hel clecs' fy hen anwyliaid, mae ambell i stori ddiddorol yn dod i'm sylw wrth i mi siopa.
Gwerfyl Thomas
|
|
|
|
| |
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
| |
|
|