Dyfarniad y beirniad y Prifardd Cyril Jones, oedd mai ysgrif Heulwen ar y teitl 'Dylanwadau' oedd y darn o waith, o holl gynnyrch cystadlaethau Hwyl yr Hogwr, a roddodd mwyafrif o bleser iddo.
Er mawr ofid iddi doedd Heulwen ddim yn gallu bod yn bresennol y noson honno ond derbyniodd y goron yn llawen iawn yn ddiweddarach trwy law y Parchg. Hywel Richards.
Efallai nad yw pawb yn sylweddoli mai coron arian a gynlluniwyd ac a wnaed gan Mr Tom Price o Gorneli, yw Coron Yr Hogwr. Mae'n goron hardd iawn ac fe'i cedwir am flwyddyn gan yr enillydd.
Unwaith eto bu nifer wrthi'n brysur yn cystadlu a chafwyd noson ddymunol dros ben yn Neuadd y Tabernacl, Pen-y-bont nos Wener Tachwedd 4ydd. Llywyddwyd y cyfarfod yn hwyliog gan y Parchg. Hywel Richards, gweinidog y Tabernacl yn absenoldeb anorfod y Parchg. Robin Samuel, Cadeirydd Yr Hogwr.
Darllenodd y beirniad bigion o'r gwaith a dderbyniodd, digon i roi blas ohono i'r gynulleidfa ac anogodd bwyllgor Yr Hogwr i sicrhau cyhoeddi'r rhan helaethaf o'r cynnyrch llenyddol a ddaeth i law gan ei fod o safon uchel dros ben.
Yn ogystal â mwynhau beirniadaethau Mr Cyril Jones swynwyd y gynulleidfa hefyd gan yr adloniant cerddorol a ddarparwyd ar ein cyfer gan driawd o gerddorion - Mrs Lowri Phillips ar y delyn, a Mrs Sheila Adams a Mrs Sian Phillips ar bob i ffliwt. Roedd y paned a'r bisgedi a ddarparwyd ar y diwedd yn glo hapus iawn i nosonddymunol dros ben.
Diolch yn fawr i bawb a weithiodd i sicrhau llwyddiant y noson, yn arbennig felly i Mr Tom Price a'r Parchg. Dewi Thomas a oedd wrth y llyw yn trefnu rhediad esmwyth y cyfan.
Gwerfyl Thomas
|