Dyna braf oedd gwrando ar Mrs. Beryl Thomas a Mrs. Eirianwen Stanford yn adrodd gwaith T. Rowland Hughes, sef "Salem" a "Steil", yn y man priodol, ac i ninnau ganu emyn, gyda Mr. Alwyn Samuel wrth yr organ eto - profiad pleserus iawn i bawb oedd yn bresennol.
Ar ôl cinio, cawsom ein tywys o amgylch tref Dolgellau gan ein Gweinidog - tref oedd yn gartref i'w deulu am flynyddoedd lawer cyn iddynt symud i Ben y Bont.
Unwaith eto, hanes y Crynwyr, a mannau priodol "Y Stafell Ddirgel" gan Marion Eames a gafodd ein sylw, gan gynnwys Amgueddfa'r Crynwyr, Eglwys y Plwyf, yr hen garchar, a Brynmawr.
Er bod nifer ohonom wedi hen arfer a'r ardal (yn ein tyb ni!), cawsom wledd o'i gweld trwy lygaid rhywun oedd yn amlwg yn adnabod ei hen gynefin yn dda iawn.
Bore Sul, aethom yn ôl i'r dref i ymuno â chynulleidfa Tabernacl, Dolgellau, dan ofal y Parch. Hywel Richards, mewn gwasanaeth hyfryd iawn. Cawsom groeso cynnes a diffuant iawn gan y Gweinidog newydd ac aelodau'r Capel, a chinio braf a baratowyd gan chwiorydd y Capel cyn i ni droi am adref.
Yn sicr, nid yw'n bosibl trefnu taith mor llwyddiannus a di drafferth heb lawer iawn o waith paratoi o flaen llaw, ac felly rhaid diolch yn fawr iawn i Mr. Richards, a phawb arall a gyfrannodd tuag at y llwyddiant, am benwythnos hyfryd yng nghwmni ein gilydd.
Anne Roberts Jones
|