Golygyddol y Rhifyn Cyntaf
Ar y cyntaf o Hydref 1986 cafwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghlwb Brynmenyn i drafod hybu Cymreictod ardal Ogwr. Roedd llawer yn teimlo ein bod ni gryn dipyn ar ei hol hi, o'n cymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru. O gwrdd â chyfeillion ar faes yr Eisteddfod a thrwy deithio drwy barthau eraill o Gymru, roedd y gymhariaeth yn un reit greulon ac yn codi cywilydd ar lawer ohonom. Sut, felly, oedd mynd ati i wella'r sefyllfa?
Un syniad a gafodd sêl a bendith y cyfarfod oedd cychwyn papur bro a dyma, erbyn Gŵyl Dewi 1987, wireddu'r freuddwyd a chael rhifyn cyntaf Yr Hogwr. Y dasg yn awr yw sefydlu'r Hogwr a sicrhau ei fod e'n mynd o nerth i nerth. Rhaid gwneud yn siŵr na fydd e byth yn colli ei awch ac y bydd ei lafn bob amser yn loyw a miniog.
Fe welwch pwy sydd wedi bod wrth y llyw hyd yn hyn; mae eu gweithgarwch yn galonogol dros ben. Ond mae eisiau rhagor o wirfoddolwyr i'n cynorthwyo, pobl i 'sgrifennu erthyglau ar unrhyw bwnc a fydd o ddiddordeb i'n cyd Gymry Cymraeg, pobl i lunio cwisiau, i dynnu cartwnau, i baratoi deunydd i'r plant. Mae cant a mil o bethau i' w gwneud er mwyn rhoi'r papur yn ei wely pob mis, heblaw sôn am ei ddosbarthu a'i werthu. Byddwn yn croesawu llythyron ar unrhyw bwnc ac awgrymiadau ar sut i wella'r Hogwr. Os oes gennych newyddion, ffoniwch eich gohebydd lleol.
Mae menter fel hyn yn gostus, yn enwedig ar y dechrau. Yn barod mae nifer o bobl wedi mynegi eu hewyllys da gan ddanfon arian. Byddai cyfraniadau ychwanegol yn dderbyniol dros ben a bydd y trysorydd yn croesawu pob siec a ddaw i'w ddwylo. Hyderwn y bydd Yr Hogwr yn ddolen gyswllt rhwng, ac hefyd yn lwyfan gwerthfawr i, Gymry Cymraeg Ogwr.
Hogwn arni!
John Brace
Golygyddol Rhifyn 200
Wel, dyma garreg filltir hanesyddol yn hanes Yr Hogwr. Pwy fyddai wedi dychmygu 20 mlynedd yn ôl y byddai yna o leiaf 200 o rifynnau o'n papur bro? Bu tipyn o fynd a dod dros y cyfnod. Nifer o ffrindiau da i'r Hogwr bellach wedi ein gadael - yn swyddogion, cyfranwyr a darllenwyr. Ar yr un pryd nifer o ffrindiau newydd wedi dod atom hefyd, er y gallem ni wastad gwneud ag ychydig bach mwy! Ond achlysur i ddiolch a dathlu yw hi. Pe bai ond i ddweud, 'Rym ni yma o hyd'.
Go brin fod pob un o'r 200 rhifyn wedi taro deuddeg i bob darllenydd. Ys dywed yr hen ddywediad `ni ellir plesio pawb bob tro', ond gobeithio fod yna rywbeth at ddant rhywun wedi bod ym mhob rhifyn. Beth am rannu gyda ni atgof neu ddau am rywbeth sydd wedi eich plesio chi dros y blynyddoedd? Byddai'n dda gallu cynnwys eich atgofion yn rhifyn 201.
Fe welwch chi fod y tîm sy'n rhoi'r papur at ei gilydd wedi atgynhyrchu'r dudalen flaen o'r rhifyn cyntaf un, ynghyd â'r golygyddol cyntaf. Er wedi ysgrifennu 20 mlynedd yn ôl, mae' n werth ei ddarllen ac mae' n dal yn berthnasol iawn. Yr un yw'r anghenion o hyd.
Beth am y dyfodol? Byddai'n cymryd person dewr iawn i ddweud y bydd yna rifyn 400 o'r Hogwr. Fel y gŵyr unrhyw un sy'n ymwneud â'r byd cyhoeddi, y mae darllenwyr yn mynd yn brinnach o flwyddyn i flwyddyn, gyda'r rhai hynny sy'n darllen Cymraeg yn brinnach fyth. Faint o fywyd Cymraeg lleol fydd ar ôl i sôn amdano? A beth yw hyd oes grantiau i bapurau bro?
Ond na fe, os fydd Hogwr mewn 20 mlynedd, tebyg mai ar-lein fydd ef neu'n dod ar e-bost neu i'w lawr lwytho fel 'podcast!' Mae'n well peidio proffwydo, mwy na dweud tra bydd yna bobl sy'n prynu a darllen yr Hogwr a phobl sy'n barod i gyfrannu ato, fe wnawn ein gorau i gyhoeddi rhifyn arall.
Robin Samuel