Byth er pan godwyd yr atyniad cyntaf, sef y "Figure 8", yn ôl yn y 1920au, mae Coney Beach wedi bod yn rhan annatod o'r adloniant glan-y-môr ar gael i'r miloedd o ymwelwyr a dyrrai i Borthcawl bob blwyddyn ar eu gwyliau haf. A chynlluniau ailddatblygu'r safle ar y gweill, beth bynnag, ymddengys bod dyddiau'r "Ffair" yn prysur ddirwyn i ben. Ond nid yr ymwelwyr yn unig fydd ag achos i edifarhau cau Coney Beach - mae'r Ffair wedi bod yn bwysig ym mywydau trigolion y dref hefyd.
Pan roeddem ni'n blant, byddai trip i'r Ffair yn brofiad cyffrous a chyfareddus bob tro. Cyn gynted ag y byddem ni dros y trothwy, eid a ni i fyd ar wahân. Rhuthrid ar ein holl synhwyrau o bob cyfeiriad - gan aroglau melys hufen ia, afalau taffi a "Candy Floss" wedi'u cymysgu ag aroglau cynnes a sawrus cŵn poeth a byrgers; gan amrywiaeth o synau - stondinwyr yn bloeddio, peirianwaith y "rides" yn clecian, plant yn sgrechian ar y "Water Chute", cerddoriaeth organ yn codi o'r ceffylau bach, a'r lleisiau siriol o'n cwmpas; a gan y goleuadau llachar o bob lliw ymhobman, cerbydau'r rides yn fflachio heibio, a'r tyrfaoedd lliwgar yn llifo yma a thraw yn barablus.
A chymaint o weithgareddau i danio ein dychmygion, ymhle y dechreuem ni? Ai ym mherfeddion tywyll y "Ghost Train" yr aem yn gyntaf, lle y byddai ysbrydion, pryfed cop, a sgrechian iasoer yn hala cryd arnom, neu a fyddai'n ddewisach gennym y ras wyllt uwchben y ddaear ar y "Figure 8"? Ac ar ôl inni ddychryn yn bleserus ar yr atyniadau mawr, byddai saethu hwyaid a cheisio dal pysgod aur, chwerthin yn Neuadd y Drychau, a syllu'n syn yn y Planetariwm i'n difyrru ni.
Ond ar ôl iddi nosi, fe ddeuai trip i Coney Beach yn fwy gwefreiddiol byth. Byddai'r tywyllwch yn raddol gau amdanom, yn cryfhau'r argraff o fod mewn byd dibryder a diamser, llawn hud a lledrith. Byddai'r goleuadau croegwych a llachar ar yr atyniadau yn bwrw pyllau gloyw o olau cynnes a chroesawgar o gylch pob un. A'r noson yn dirwyn i ben, a'r oerfel yn dechrau gafael, byddai'n amser inni gael "doughnuts" neu gŵn poeth er mwyn cynhesu, pawb yn sefyll mewn cylch siriol o wynebau disglair, llygaid yn pefrio yn yr hanner gwyll. Ond teg edrych tuag adre, ac o'r diwedd, tua thre' 'da ni, yn flinedig and yn hapus, yn cofleidio llwyth o atgofion bendigedig.
Ddiwedd y tymor, ym mis Medi, fe fyddai ymweliad i'r ffair i weld yr arddangosfa dan gwyllt. Cynhelid hon mewn theatr awyr agored ar bwys yr atyniadau. Wedi lapio' n dda yn erbyn yr oerfel, byddai pawb yn eistedd ar feinciau pren i fwynhau'r sioe. Roedd llwyfan pren o flaen y seddau a math o fframwaith tu ôl i hwnnw lle y gosodid y tan gwyllt. Byddai golygfeydd ysblennydd wedyn. Byddai rocedi yn saethu i'r awyr i ffrwydro uwch ein pennau, "roman candles" yn poeri gwreichion tanbaid ar draws y llwyfan, "bangers" yn ein byddaru, a phob math o dan gwyllt yn tasgu ac yn pefrio'n rhyfeddol yn y tywyllwch o'n cwmpas ni.
Ond mae'r Rhod yn troi. Fe ddaeth Coney Beach i fodolaeth yn nyddiau Gipsey Rose Lee a'r Ddynes Farfog, ac fe fydd yn darfod yn oes Wi a "virtual reality." Mae ei atyniadau yn rhy fach ac yn rhy draddodiadol i gystadlu yn erbyn Alton Towers a Pharc Oakwood. O'i chymharu a rheina, mae ffair Porthcawl i'w gweld yn blwyfol ac yn hen ffasiwn, ni waeth pa mor ddewr y chwifia'r faner fach ar ben twr yr Helter Skelter. Mae'n perthyn i oes a fu pan roedd ein pleserau'n symlach.
Ond yn y bôn, rhith oedd y cyfan, wrth gwrs. Nid oedd seiliau cedyrn, mewn gwirionedd, i'r freuddwyd tu ôl i'r mwgwd lliwgar, tu ôl i'r bordau pren-tri-thrwch o ansawdd gwael a'r llenni plastig budr. Er hynny i gyd, beth bynnag, er gwaetha'r teganau rhad, y trugareddau diwerth a'r holl rodres hy ac arwynebol, byddaf yn gweld colled ar ei hôl hi pan gaea Coney Beach am y tro olaf. Yr hyn a gofiaf i yn bennaf fydd yr hwyl diniwed, y cyffro a phleserau syml plentyndod.
Richard Howe