Serch hynny penderfynodd, flynyddoedd yn ôl bellach, ddysgu Cymraeg ac erbyn heddiw mae yn rhugl ynddi. Hefyd mae yn briod, Yvonne yn ddysg-wraig lwyddiannus. Pan oedd yn 23 oed ymunodd â Heddlu De Cymru. Ar ôl treulio blwyddyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, daeth i Faesteg yn 1974 pan oedd Tom Holder yn arolygydd. Yr adeg honno byddai y cadlywydd adran yn byw yng ngorsaf yr heddlu yn Commercial Street, Maesteg a byddai mwyafrif y plismyn yn byw mewn tai heddlu a leolwyd bob yn ddau a dau ar hyd a lled y cwm. Yng nghlwm â'r tai hyn yr oedd y swyddfeydd at ddefnydd y plismyn lleol. Yn ystod ei ddeng mlynedd ar hugain yn yr heddlu gwelodd Gerwyn newidiadau mawr ac erbyn heddiw y mae aelodau o'r heddlu yn berchen ar ein tal. Bu yna adeg pan leolid aelodau o'r heddlu tu allan i'w broydd genedigol gan y credid byddai eu cadw yno yn golygu y byddent yn rhy gyfeillgar â mwyafrif y boblogaeth. Erbyn heddiw fe'u hanogir i weithio yn eu cymdogaeth gan y sylweddolir fod ganddynt wybodaeth drylwyr o'u cynefin ac felly yn medru cyflawni en dyletswyddau yn fwy effeithiol. Treuliodd Gerwyn y rhan fwyaf o'i wasanaeth yng Nghwm Llynfi, er iddo am gyfnod weithio yng Nghaerau Caerdydd. Bu hyn yn brofiad buddiol iddo gan iddo ddychwelyd i Faesteg bymtheng mlynedd yn ôl fel rhingyll. Yr oedd, adeg ei ymddeoliad, yn ddirprwy gadlywydd adran ac o dro i dro yn cyflenwi swydd arolygydd. Bu hefyd am gyfnod yn darlithio yng ngholeg yr heddlu yng Nghwmbran a thra yno aeth allan o'i ffordd i sgwrsio â chwnstabliaid ieuainc y broydd Cymraeg, a oedd yn mynychu'r cyrsiau, yn eu mamiaith. Gwynfor Davies
|