Glan Rhondda oedd enw'r gân ar y pryd. Y gantores oedd Elizabeth John, merch 16 oed o `Mill Street', Pontypridd. Yn yr arddangosfa ceir ychydig o hanes Evan James (Ieuan ap Iago) a'i fab James (Iago ap Ieuan) o Bontypridd. Yn ôl Taliesin James, ŵyr Evan James, y mab a gyfansoddodd yr alaw yn 1856 a'r tad a ysgrifennodd y geiriau. Cyflwynwyd y llawysgrif gwreiddiol gan Taliesin Williams, mab James James ac ŵyr felly i Evan James, i'r Amgueddfa Genedlaethol. Mae'r llawysgrif bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Yn ôl y 'Bywgraffiadur Cymraeg' cynhwyswyd yr alaw o dan yr enw 'Glan Rhondda' gan Thomas Llywelyn (Llywelyn Alaw), Aberdâr ac Aberpennar, mewn casgliad o alawon Cymreig nas cyhoeddwyd, a anfonodd ef i gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, 1858 (y mae MS casgliad 'Llewellyn Alaw' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru).
Cynganeddwyd yr alaw gan John Owen (Owain Alaw), beirniad y gystadleuaeth, ac fe'i cynhwysodd yn nhrydedd gyfrol 'Gems of Welsh Melody', 1860. Canwyd hi yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1865 gan Kate Wynne, a'r flwyddyn ddilynol gan Llew Llwyfo (Lewis William Lewis), a oedd yn enwog yn ei
ddydd, yn Eisteddfod Genedlaethol Caer.
Yn ôl yr Athro Hywel Teifi Edwards cynhwyswyd y gân yn rhaglenni Eisteddfodau Cenedlaethol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel 'Eisteddfod Song'.
Diddorol yw sylwi wrth fynd o amgylch yr Arddangosfa fod Taliesin Williams, sef ŵyr Evan James, wedi ei hyfforddi ar y delyn yn y Coleg Brenhinol yn Llundain gan John Thomas 'Pencerdd Gwalia', un a anwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn 1826. Hefyd fod Mrs Barbara Jenkins, gorwyres i Taliesin Williams, yn byw ar hyn o bryd ym Mynydd Cynffig. Mae'n amlwg fod llawer o'i hymchwil i hanes y teulu James i'w weld yn yr arddangosfa.
Gwelir hefyd luniau o'r hen Dabor a hefyd o weinidogion yr eglwys. Agorwyd y capel ar Dachwedd 4 1840 ac fe'i caewyd ar Orffennaf l8 1908 gan fod yna gapel newydd yn dwyn yr un enw wedi ei adeiladu yn Commercial Street. Mae'r capel hwn bellach hefyd wedi ei gau ac ar hyn o bryd mae' n cael ei addasu i fod yn fflatiau.
Gweinidog cyntaf yr Hen Dabor oedd y Parchg. David Phillips a bu yno hyd 1873. Dilynwyd ef gan y Parchg. Lewis Jones (1874 - 1882) a'r Parchg. William Thomas (1887-1908).
Yn rhan o'r arddangosfa mae copïau o gynlluniau pensaernïol pan addaswyd y capel gwreiddiol i fod yn Neuadd Ymarfer (Drill Hall) yn y flwyddyn 1913. Yn 1936 fe'i prynwyd gan Glwb y Gweithwyr ac y mae wedi bod yn ei meddiant ers hynny.
Ar y Sul cyntaf o Hydref dadorchuddir plac i ddynodi'r ffaith ar safle Hen Gapel Tabor am 2.00 o'r gloch y prynhawn. Yn dilyn am 3.00 o'r gloch cynhelir cyngerdd yn Neuadd y Dref., Maesteg, gyda chorau'r ardal yn cymryd rhan. Ni chodir tâl am fynediad i'r gyngerdd.
Deellir fod yr aelod seneddol Huw Iranca Davies wedi bod ynghlwm gyda'r trefniadau i ddadorchuddio'r plac. Dylid nodi ei fod yn anfon ei blant i Ysgol Gymrag Cynwyd Sant, Maesteg.