Mae ei rhieni Keith a Marian Maw yn byw ym Mhorthcawl, a'i chwaer Hannah yn dysgu yn Ysgol Gymraeg Cwm Garw ym Mhontycymer ac mae'n wyres i'r diweddar Griff a Gwyneth Charles o Daibach, Port Talbot.
Mae Siarlot wedi etifeddu ei diddordeb yn y maes anghenion arbennig oddi wrth ei thad. Prifathro oedd Keith cyn ymddeol yn yr hen Ysgol Bryn Castell Newydd ym Mhen-y-bont a chyn hynny yn Talbot Green a Llansawel. Roedd mam Siarlot yn Swyddog Datblygu Mudiad Ysgolion Meithrin ym Morgannwg Ganol am ugain mlynedd.
Aeth Siarlot i'r hen Ysgol Gymraeg yn Quarella Road, Pen-y-bont ac yna i Ysgol Gyfun Llanhari cyn mynychu Coleg y Drindod Caerfyrddin. Mae nawr yn bennaeth yr Adran Iau yn yr Uned Awtistig yn Heronsbridge.
Ym mis Hydref fe fydd hi'n cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth genedlaethol yn Llundain. Hefyd mae wedi cael ei henwebu ar gyfer "Welsh Woman of the Year". Felly pob lwc i Siarlot ar gyfer y cystadlu a'r dyfodol.
|