91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Edwin J Davies Cofio Ted
Ebrill 2008
Mae gan bawb ei stori amdano, un fel 'ny oedd Ted, neu i fod yn ffurfiol Edwin J Davies.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi collwyd un a weithiodd yn ddiflino ar hyd ei oes dros y pethau gorau yn yr ardal hon ac yn sirol. Roedd Ted yn derbyn yr Hogwr o'r dechrau cyntaf ac roedd bob amser yn bleser mynd â'r Hogwriddo.

Yn ei deyrnged yng Nghapel y Pil defnyddiodd Mr Hugh Thomas chwe darlun i geisio crynhoi'r holl agweddau o fywyd un mor weithgar ac amryddawn. Y llun cyntaf oedd ei gartref Lamborough. Enw ddaeth o gartref Ted yn Sir Benfro. Cyfeiriodd at yr aelwyd agored, gynnes a chroesawgar grëwyd yno gan Ted a'i wraig, y diweddar Morwen.

Yn fachgen un ar bymtheg oed aeth Ted i weithio i waith dur Richard Thomas and Baldwin, ac yno dysgodd barchu swyddogaeth Undeb a chydweithio mewn tîm. Cadwodd at y daliadau a'r safonau yma drwy ei fywyd.

Yr ail ddarlun oedd o Ted y dyn cyhoeddus, fu yn gadeirydd ar gymaint o bwyllgorau, llawer rhy niferus i'w henwi. Yn y rôl yma roedd Ted yn hollol ddibynadwy ac yn ddyn o ddaliadau ac o onestrwydd anghyffredin. Safonau a'i rhoddodd, ar un achlysur, mewn perygl o golli ei gartref pe bai'r achos yn yr Uchel Lys dros hawliau'r "Kynffig Commoners" wedi methu. Un fel yna oedd Ted, os oedd rhywbeth yn iawn yna roedd yn werth brwydro drosto, beth bynnag fyddai'r gost. Roedd cefnogaeth ei briod yn 311 bwysig iddo yn ystod yr achos llys. Bu yn gadeirydd ar y "Kynffig Trust" am 50 mlynedd.

Y trydydd darlun oedd o Ted yn ei Wisg Werdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y darlun yma yn adlewyrchu ei frwdfrydedd dros bopeth Cymraeg yr ardal. Roedd addysg Gymraeg yn uchel iawn ar ei agenda fel roedd yr Eisteddfod Genedlaethol pan aeth i Ben-y-bont yn 1998. Dyma ei gartref ysbrydol ac roedd y capel a safonau Cristnogol yn rhan annatod o'i fywyd bob dydd.

Y pedwerydd darlun oedd o Ted y dyn addurno cacennau. Roedd wrth ei fodd yn coginio, ac ar ôl marwolaeth Morwen aeth ati i ddysgu'r grefft o addurno cacennau, "Sugar Craft". Cefais wahoddiad sawl tro i fynd i'r tŷ i weld ei greadigaeth ddiweddaraf, gan synnu a rhyfeddu fel roedd ei grefft wedi datblygu dros y blynyddoedd i greu gwaith oedd o wir safon.

Ar gyfer y chweched darlun gwahoddodd Mr Hugh Thomas bawb i lanw'r ffrâm gyda'u hatgofion personol eu hunain a dyna wnaf wrth orffen. Y cyfarchiad bron bob tro pan fyddwn yn galw gyda'r Hogwr oedd "Ti eisiau arian", "Na," fyddai fy ateb bron bob tro, a byddai Ted yn ychwanegu gyda gwen "Wel tyrd i mewn 'ta".

Ond y deyrnged orau a welais iddo oedd mynd i dafarn y Prince, Cynffig am bryd o fwyd un noson cyn yr angladd, ac ar hoelen ar gefn drws roedd arwydd wedi ei wneud ar gyfrifiadur yn dweud "Funeral arrangements - Ted's" gan ychwanegu'r manylion. Dim cyfenw, doedd dim eisiau, un fel 'ny oedd Ted.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i'w fab Derek a'r cysylltiadau i gyd yn eu colled.

Tom Price


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý