Estynnwn ein llongyfarchiadau i Richard Howe ar ddod yn un o'r pedwar olaf yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn. Cynhaliwyd y noson yn Neuadd y Brangwyn ar nos Fercher y 5ed o Awst. Arweiniwyd y noson yn feistrolgar iawn gan Siân Thomas, sydd yn lais cyfarwydd iawn i wrandawyr Radio Cymru.
Er na lwyddodd Richard i ennill y tlws am Ddysgwr y Flwyddyn roedd yn bleser bod yno i wrando arno yn rhannu ei brofiadau o ddysgu'r Gymraeg mewn iaith raenus ac yn ei ddull diymhongar ei hun.
Llongyfarchiadau hefyd i Richard am ennill y Tlws Rhyddiaith yn Adran y Dysgwyr am ei ddarn o ryddiaith ar y testun "Sêr". Gallwch ddarllen ei waith yn y Cyfansoddiadau ac mae'r feirniadaeth hefyd yn werth ei darllen. Pob lwc iddo i'r dyfodol.
John Pearman
Llongyfarchiadau iddo ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth "Dweud eich Dweud" i ddysgwyr trwy ddweud ei ddweud am gorau Meibion Cymru. Yng ngeiriau un o'r beirniaid "'roedd yn araith bwerus, yn gyfuniad o ddiwydiant a diwylliant".
Ein Corau Meibion Cymraeg - beth am y dyfodol?
Rwy'n sicr y byddai llawer ohonom yn cytuno bod cerddoriaeth a chanu wedi chwarae rhan bwysig yn ein bywydau. O ddyddiau ysgol hyd yn henoed rydym yn mynegi ein hunain trwy gerddoriaeth - lleisiau hapus plant yn gymaint ag mewn sŵn cyfoethog ein corau cyfundebol.
Seiliwyd ein Corau Meibion Cymreig ar hen draddodiadau ein gwlad, ac ar gymdeithas bro. Sefydlwyd hwy mewn cyfnod pan oedd ein heglwysi a'n capeli yn llawn, a'r rhan fwyaf o'n dynion yn gweithio mewn diwydiannau trwm. Erbyn heddiw mae'r cynulleidfaoedd yn denau iawn ymhobman a bron pob un o'r hen byllau glo, chwareli llechi, a'r gweithiau dur a thunplat wedi cau.
O'r herwydd mae nifer o aelodau ein Corau Meibion wedi lleihau. Os edrychwch ar unrhyw Gôr ar lwyfan, prin iawn yw nifer aelodau o dan chwe deg oed, ac mae'r sefyllfa hon yn mynd yn waeth bob blwyddyn.
Yn fy marn i dylsen wneud rhywbeth ynglŷn â'r sefyllfa a hwyrach, mai'r ateb yw uno'r miwsig traddodiadol gyda'r miwsig ysgafnach. Gall ein Corau Meibion Cymreig ymfalchïo yng ngosodiadau traddodiadol ein hemyn-donau - ARWELFA; CWM RHONDDA; GWAHODDIAD; LAUDAMUS; LLANFAIR ac yn y blaen. Mae'r tonau hyn wedi creu brwdfrydedd a balchder, ond fel mae'r emynau hyn wedi cyffwrdd â chalonnau a meddyliau cynulleidfaoedd am fwy na chanrif a hanner, felly hefyd dylai corau y dyfodol ganu darnau newydd er mwyn swyno eu gwrandawyr cyfoes.
(Diddorol iawn oedd clywed Bryn Terfel yn dweud yn yr Eisteddfod Ryngwladol eleni ei fod e'n cynnwys rhai darnau ysgafnach yn ei repertoire).
Sais ydw i, o Ogledd y Cotswolds, Sir Gaerloyw. Des i i Gymru i weithio yn y diwydiant dur, yn Felindre ar safle yr Eisteddfod, a rhaid talu teyrnged i gorau mawr yr ardal hon am eu cyfraniad er boddhad a mwynhad eu cymunedau. Gallwn fod yn sicr o un peth - mae'r Corau Meibion Cymreig yn cynrychioli ein diwylliant a'n hetifeddiaeth - yng Nghymru ei hun a hefyd dramor.
Y mis diwetha bum yn Tseina a Hong Kong gyda Chôr Meibion Undebol Cymreig (gyda'r arweinydd enwog Alwyn Humphreys). Fel Cymdeithas rydym yn awyddus i fynegi i eraill ein traddodiadau anrhydeddus fel cenedl, ond gwyddom yn dda hefyd ein bod yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb o hyrwyddo a sicrhau dyfodol y Corau Meibion Cymreig. Byddai'n ergyd drom petasai'n amhosibl i Gymru, yn ystod y blynyddoedd a ddaw gynhyrchu digon o gorau meibion i gyflawni'r alwad fyd-eang amdanynt.
Llwyddiant yn yr arholiadau i'r dysgwyr
Ganol dydd ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod roedd pabell y Dysgwyr yn llawn i weld dysgwyr yn derbyn eu Tystysgrifau am lwyddo yn eu harholiadau CBAC. Yn eu mysg roedd nifer o ddysgwyr dosbarthiadau ardal Yr Hogwr. Llongyfarchiadau i chi i gyd. Yn y lluniau gwelir rhai o'r dysgwyr sydd yn mynychu'r Sadwrn Siarad a gynhelir yn festri y Tabernacl Porthcawl.